15.04.2026

Gorsaf Dân Llanelli yn Cynnal Digwyddiad Golchi Ceir Elusennol

Ddydd Sadwrn, 11eg Ebrill cynhaliodd criw Gorsaf Dân Llanelli ddigwyddiad golchi ceir elusennol i godi arian ar gyfer dau achos pwysig.

Gan Lily Evans


Ddydd Sadwrn, 11eg Ebrill cynhaliodd criw Gorsaf Dân Llanelli ddigwyddiad golchi ceir elusennol i godi arian ar gyfer dau achos pwysig.

Diolch i haelioni'r gymuned leol, cododd y criw £816 i Elusen y Diffoddwyr Tân ac Hosbis Ty Bryngwyn Llanelli.

Daeth trigolion draw drwy gydol y dydd er mwyn i’w cerbydau gael eu glanhau wrth gefnogi'r digwyddiad, gyda Diffoddwyr Tân yn gweithio gyda'i gilydd i godi arian ac ymgysylltu â'r gymuned.

Hoffai'r criw ddiolch i bawb a ddaeth draw ac a gyfrannodd yn ariannol, gan helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant mawr.



Peidiwch â Methu Ein Digwyddiad Nesaf

Mae yna groeso cynnes i bawb yn ein digwyddiadau cymunedol, gan gynnig cyfle gwych i chi gysylltu â’ch diffoddwyr tân lleol a chefnogi’r digwyddiadau a arweinir gan y gorsafoedd.

Nodwch y dyddiadau yn eich calendrau a chadwch olwg ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a manylion am y digwyddiadau. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld mewn digwyddiad yn y dyfodol a gobeithio y gwelwn ni chi’n fuan!

Erthygl Flaenorol