Digwyddiadau

Yn amrywio o ddiwrnodau agored llawn gweithgareddau i olchi ceir a diwrnodau profiad, mae rhywbeth at ddant pawb



Mae yna groeso cynnes i bawb yn ein digwyddiadau cymunedol, gan gynnig cyfle gwych i chi gysylltu â’ch diffoddwyr tân lleol a chefnogi’r digwyddiadau a arweinir gan y gorsafoedd.

Nodwch y dyddiadau yn eich calendrau a chadwch olwg ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a manylion am y digwyddiadau.

Peidiwch da chi â cholli allan ar y cyffro - dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a gwahoddwch eich ffrindiau a’ch teulu.



Digwyddiadau






Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru galendr prysur o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol y flwyddyn.



Mae Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân y Gelli Gandryll yn gwahodd y gymuned leol i ymuno â nhw am ‘Baned gyda’r Criw’, ddydd Llun, Awst 17eg, rhwng 6.30 a 8.30yh.

Mae yna groeso i bawb rannu paned a chacen o amgylch y bwrdd bwyta, cael taith o’r Orsaf Dân a chael gweld y cerbydau gweithredol.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad ac archwilio'r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd ar gael yn yr Orsaf Dân.

Mae Paned gyda’r Criw yn ddigwyddiad am ddim, gyda chroeso i roddion tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân.

Lleoliad: Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll, Heol Aberhonddu, Y Gelli Gandryll, Powys, HR3 5DY

Biker Down Cymru Powys

​​​Gorsaf Dân ​​​Llandrindod
25 Gorffennaf | 9:30am-12:30pm
29 Awst | 9:30am-12:30pm
26 Medi | 9:30am-12:30pm

Mae ‘Biker Down’ yn gwrs cymorth cyntaf brys AM DDIM gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU.
Mwy o wybodaeth yma

Biker Down Cymru Sir Gâr

​​​Gorsaf Dân Y Caerfyrddin
17 Medi | 6:30pm-9:30pm

​​​Gorsaf Dân ​​​Llanelli
20 Hydref | 6:30pm-9:30pm

Gorsaf Dân Rhydaman
25 Tachwedd | 1:30pm-4:30pm

Gorsaf Dân Llanymddyfri
18 Gorffennaf | 2pm-5pm

Mae ‘Biker Down’ yn gwrs cymorth cyntaf brys AM DDIM gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU.
Mwy o wybodaeth yma



Dyddiau Agored







Dewch i ymweld â ni yn un o'n Diwrnodau Agored ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru! Dyma gyfle i gael ychydig o hwyl rhyngweithiol, wrth i chi gamu i esgidiau diffoddwr tân a chael blas ar yr amrywiol weithgareddau ac arddangosiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y diwrnod. Cewch weld y gwaith anhygoel y mae ein harwyr lleol yn ei wneud a chael cipolwg ar fyd diffodd tanau.

 




Pembroke Dock Open Day

Diwrnod Agored Aberdaugleddau

Ymunwch â ni yng Ngorsaf Dân Aberdaugleddau ddydd Mercher, Awst 12ain, am Ddiwrnod Agored yn llawn hwyl a sbri yn addas at bob oed!
  • Arddangosiadau
  • Lluniaeth
  • Gweithgareddau i blant
Holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Aberystwyth Fire Station Open Day

Dyddiad: Dydd Sadwrn, Awst 22ain
Amser: 11yb - 3yp
Lleoliad: Gorsaf Dân Aberystwyth, Trefechan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1BE

Ymunwch â'r Diffoddwyr Tân yng Ngorsaf Dân Aberystwyth am ddiwrnod agored llawn hwyl i'r teulu.

Bydd digon i'w weld a'i wneud, gan gynnwys:

🎨 Peintio Wynebau

🌭 Barbeciw

🏰 Castell Neidio

💦 Gwlychi’r Diffoddwr Tân

🍰 Stondin Gacennau

Dewch â'r teulu i gwrdd â'ch Diffoddwyr Tân lleol, a mwynhewch ddiwrnod o hwyl wrth ddysgu mwy am yr hyn y mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ei wneud yn eich cymuned.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

Diwrnod Agored Gorsaf Caerfyrddin ar Pencadlys 

Ymunwch â ni yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin ddydd Sadwrn, Awst 28ain, am Ddiwrnod Agored yn llawn hwyl a sbri yn addas at bob oed!
  • Arddangosiadau
  • Lluniaeth
  • Gweithgareddau i blant
Holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Pembroke Dock Open Day

Diwrnod Agored Hwlffordd

Ymunwch â ni yng Ngorsaf Dân Hwlffordd ddydd Sadwrn, Awst 29ain, am Ddiwrnod Agored yn llawn hwyl a sbri yn addas at bob oed!
  • Arddangosiadau
  • Lluniaeth
  • Gweithgareddau i blant
Holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Diwrnod Agored Gorsaf Dân Y Tymbl

Dyddiad: Dydd Sadwrn, Awst 29ain
Amser: 10.30yb – 4yp
Lleoliad: Gorsaf Dân Y Tymbl, Heol Llety, Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin, SA14 6BN
Mynediad: Am ddim

Mae'r digwyddiad teuluol rhad ac am ddim yn addo diwrnod llawn hwyl i bob oed, gan gynnig cyfle i ymwelwyr gwrdd â'u Diffoddwyr Tân lleol, dysgu mwy am waith hanfodol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau ac atyniadau.

Bydd yna ddigon i'w weld a'i wneud, gan gynnwys:

🌭 Barbeciw
🚒 Arddangosiadau byw
👨‍👩‍👧‍👦 Hwyl i bob oed

Mae'r Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i drigolion ymgysylltu â'u criw tân lleol, dysgu mwy am ddiogelwch tân a gwaith atal cymunedol, a chael gwell dealltwriaeth o'r rôl y mae Diffoddwyr Tân yn ei chwarae wrth gadw cymunedau lleol yn ddiogel.

Dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau i ymuno â'r Diffoddwyr Tân am ddiwrnod hwylus o ymgysylltu â'r gymuned ac adloniant teuluol.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

Pembroke Dock Open Day

Diwrnod Agored Pontardawe

Ymunwch â ni yng Ngorsaf Dân Pontardawe ddydd Sadwrn, medi 12ain, am Ddiwrnod Agored yn llawn hwyl a sbri yn addas at bob oed!
  • Arddangosiadau
  • Lluniaeth
  • Gweithgareddau i blant
Holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân.


Golchfeydd Ceir







A oes angen golchi eich car? Rydyn ni yma i helpu! Dewch i un o’n digwyddiadau Golchi Ceir ac am gyfraniad i elusen, fe wnawn ni’n siŵr bod eich car yn disgleirio. Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân ac elusennau lleol eraill sy’n cael eu dewis gan yr Orsaf Dân dan sylw.




Dyddiau Profiad a Recriwtio



Eisiau gwybod mwy am y Gwasanaeth Tân a dod yn Ddiffoddwr Tân? Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys Diwrnodau Profiad, Diwrnodau Dangos a Dweud a Nosweithiau Recriwtio. Edrychwch isod i gael gwybod pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn lleol i chi, a gobeithiwn eich gweld yn fuan!