Y Tu Hwnt i’r Galw: 30 Mlynedd Gyda'n Gilydd
I nodi'r garreg filltir hon, ym mis Tachwedd, byddwn yn dod at ein gilydd i gynnal digwyddiad cydnabyddiaeth unigryw arbennig, Y Tu Hwnt i’r Galw: 30 Mlynedd Gyda'n Gilydd – noson i gydnabod yr unigolion, y timau, y gwirfoddolwyr a'r partneriaid sydd wedi helpu i lunio a chryfhau ein Gwasanaeth a'n cymunedau.
Cyflwynwch eich cynigion am gydnabyddiaeth nawr a helpwch ni i ddathlu'r bobl sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.
Trwy lenwi'r ffurflen, gallwch ein helpu i gydnabod yr unigolion, y timau, y gwirfoddolwyr a'r partneriaid y mae eu hymroddiad, eu gofal a'u hymrwymiad yn mynd ymhell y Tu Hwnt i'r Galw – ac y mae eu cyfraniad yn haeddu cael ei weld, ei rannu a'i ddathlu.
Ydych chi'n adnabod unigolion, timau, gwirfoddolwyr a phartneriaid sy'n haeddu cydnabyddiaeth? Dywedwch wrthym pwy ydyn nhw a pham mae eu cyfraniad yn bwysig. Efallai yr hoffech chi rannu sut maen nhw wedi cefnogi eraill, wedi codi ysbryd y rhai o’u cwmpas, wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn eu cymuned, neu wedi dangos ymroddiad eithriadol yn eu rôl. Nid oes unrhyw weithred yn rhy fach i fod o bwys – mae pob cofnod yn helpu i adrodd stori'r bobl y mae eu gofal, eu hymrwymiad a'u gwasanaeth yn gadael marc parhaol.