20.10.2026

Gwobr Uchel Siryf i Reolwr Gwylfa Dinbych-y-pysgod

Wrth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nodi 30 mlynedd o wasanaeth i gymunedau ledled yr ardal, rydym yn falch o ddathlu'r bobl sydd wedi creu gorffennol y Gwasanaeth, cryfhau ei bresennol, ac ysbrydoli ei ddyfodol.

Gan Rachel Kestin



Wrth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nodi 30 mlynedd o wasanaeth i gymunedau ledled yr ardal, rydym yn falch o ddathlu'r bobl sydd wedi creu gorffennol y Gwasanaeth, cryfhau ei bresennol, ac ysbrydoli ei ddyfodol.

Rydym yn falch iawn o rannu newyddion gwych o Orsaf Dân Dinbych-y-pysgod, lle mae'r Rheolwr Gwylfa Jeremy Lees o Orsaf Dân Dinbych-y-pysgod - sy'n adnabyddus i lawer fel Jez - wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar am ei 'Wasanaeth Eithriadol i'r Gymuned'. Cyflwynwyd gwobr arbennig i Jeremy gan Uchel Siryf Dyfed i gydnabod ei ymrwymiad hir a'i gyfraniad amhrisiadwy i'r Gwasanaeth Tân ar draws Sir Benfro.

   

Dechreuodd Jeremy ei yrfa diffodd tân yng Ngorsaf Dân Dinbych-y-pysgod yn 1992, ychydig flynyddoedd cyn sefydlu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 1996. Dros fwy na deg mlynedd ar hugain, mae ei yrfa wedi adlewyrchu esblygiad y Gwasanaeth ei hun, o’i wreiddiau fel brigâd leol i sefydliad modern, unedig sy'n canolbwyntio ar atal, amddiffyn ac ymateb.

Drwy waith caled, ymroddiad a gwir angerdd dros helpu eraill, aeth Jeremy ymlaen drwy'r rhengoedd ac mae bellach yn falch o wasanaethu fel Rheolwr Gwylfa yn yr orsaf lle dechreuodd ei yrfa. Gyda 34 mlynedd anhygoel o wasanaeth, mae wedi cael effaith barhaol nid yn unig ar ei gydweithwyr, ond hefyd ar gymuned ehangach Dinbych-y-pysgod gan ennill parch enfawr am ei arweinyddiaeth, ei broffesiynoldeb a'i ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.

Wrth i ni ddathlu’r pen-blwydd pwysig hwn, mae cyflawniad Jeremy yn ein hatgoffa mai ei bobl yw cryfder y Gwasanaeth.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Craig Flannery:

"Rydw i’n ‘nabod Jeremy ers 20 mlynedd ac rwy'n falch iawn ei fod wedi cael ei gydnabod fel hyn gan yr Uchel Siryf am ei wasanaeth rhagorol i'r gymuned. Mae ymroddiad a brwdfrydedd Jeremy, boed hynny drwy ddigwyddiadau codi arian, ei bresenoldeb yng Ngharnifal Dinbych-y-pysgod, sesiynau golchi ceir neu ddiwrnodau agored, yn ymgorfforiad o aelod o staff modern y Gwasanaeth Tân ac rwy'n dymuno'n dda iddo ym mhopeth yn y dyfodol."



Da iawn, Jeremy - mae hwn yn rhywbeth i fod yn hynod falch ohono, rydym yn hynod ddiolchgar am dy ymroddiad, dy ymrwymiad a’th wasanaeth.



Erthygl Flaenorol