Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
14.08.2026
Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dal i fod ar safle'r tân gwyllt yn ardal Rhandirmwyn, ger Llanymddyfri, wrth i waith diffodd tân barhau am y trydydd diwrnod.
Gan Steffan John
Mae'r Digwyddiad Mawr a gyhoeddwyd ddoe yn parhau mewn grym, gyda Grŵp Cydlynu Tactegol (TCG) aml-asiantaethol yn parhau i gydlynu'r ymateb, cefnogi’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a sicrhau bod y gwasanaethau brys a’n sefydliadau partner yn ymdrin â’r digwyddiad mewn modd cydgysylltiedig.
Mae diffoddwyr tân wedi gweithio trwy’r nos ac i mewn i heddiw i gyfyngu’r tân, mynd i'r afael â’r mannau poethaf a’i atal rhag lledaenu ymhellach. Mae criwiau'n parhau i fod ar y safle yn gwneud gwaith diffodd tân ac yn cadw llygad agos ar yr amodau ar draws yr ardal yr effeithiwyd arni.
Fel mesur rhag ofn, mae sawl eiddo preswyl yn parhau i fod wedi'u gwagio oherwydd bod y tân yn agos atynt. Mae asiantaethau'n parhau i gydweithio i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt.
Mae ffyrdd yn parhau i fod ar gau o amgylch yr ardal yr effeithiwyd arni i gefnogi’n gweithrediadau diffodd tân a chadw’r cyhoedd yn ddiogel. Gofynnir i aelodau'r cyhoedd barchu hyn a dilyn llwybrau’r gwyriadau traffig a ddangosir ar arwyddion.
Bydd canolfan orffwys Cyngor Sir Caerfyrddin yng Nghanolfan Hamdden Llanymddyfri yn parhau i fod ar gael drwy’r dydd heddiw i drigolion y mae’r trefniadau gwacáu yn effeithio arnynt.
Wrth i waith diffodd tân barhau yn ardal Rhandirmwyn, gofynnir i aelodau'r cyhoedd:
Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddiolch i drigolion lleol, asiantaethau partner a'r gymuned ehangach am eu hamynedd, eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus tra bod yr ymdrechion ymateb yn parhau.
13.08.2026
12.08.2026
11.08.2026