02.10.2026

Gorsaf Dân Rhydaman yn Tyfu Lle ar gyfer Lles

Mae Gorsaf Dân Rhydaman wedi trawsnewid ardal y tu allan i’w gorsaf yn ardd les ffyniannus gan greu gofod croesawgar lle gall criwiau ymlacio, cysylltu â natur a mwynhau manteision tyfu eu ffrwythau, eu llysiau a'u blodau eu hunain.

Gan Steffan John



Mae Gorsaf Dân Rhydaman wedi trawsnewid ardal y tu allan i’w gorsaf yn ardd les ffyniannus gan greu gofod croesawgar lle gall criwiau ymlacio, cysylltu â natur a mwynhau manteision tyfu eu ffrwythau, eu llysiau a'u blodau eu hunain.




Gwnaed y prosiect yn bosibl trwy gefnogaeth cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi cynorthwyo’r orsaf i ddatblygu gwelyau uwch ar gyfer plannu, cyflwyno amrywiaeth o flodau, perlysiau, ffrwythau a llysiau, a chreu ardal eistedd awyr agored ddeniadol i gydweithwyr ei mwynhau.

Mae'r hyn a oedd unwaith yn ofod tu allan nad oedd yn cael ei ddefnyddio wedi cael ei drawsnewid yn amgylchedd bywiog a chynhyrchiol sy'n cefnogi lles corfforol a meddyliol. Mae'r ardd yn rhoi cyfle i griwiau dreulio amser yn yr awyr agored, cymryd seibiant o ofynion y rôl a mwynhau'r manteision niferus sy'n gysylltiedig â garddio a chysylltu â natur.

Mae'r prosiect yn enghraifft wych o sut y gellir trawsnewid ardal gymharol fechan tu allan yn rhywbeth sy'n cynnig manteision parhaol i les staff. Mae'n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall gwaith tîm, creadigrwydd ac ymrwymiad ar y cyd i les ei gael yn ein gweithleoedd.






Dywedodd Rheolwr Cynaliadwyedd ac Amgylchedd y Gwasanaeth, Jessica Millard:

"Mae criwiau Gorsaf Rhydaman wedi gweithio'n galed iawn ac wedi ymfalchïo yn y gwaith o ddatblygu'r mannau gwyrdd o amgylch eu Gorsaf. Mae'n wych gweld llwybr cerdded concrit plaen yn cael ei drawsnewid yn ardal eistedd awyr agored werdd, groesawgar, y gall y Criwiau ei mwynhau yn ogystal ag annog a chynnal amrywiaeth o beillwyr a thrychfilod. Mae'n ein hatgoffa y gellir trawsnewid hyd yn oed y mannau lleiaf yn ardal groesawgar, i gymryd amser i ymlacio a mwynhau'r amgylchedd."

Aeth Jessica ymlaen i ddweud:

"Mae'n wych gweld cymaint o griwiau ar draws ardal y Gwasanaeth yn awyddus ac yn frwdfrydig i wella eu Gorsaf ac annog a gwella bioamrywiaeth trwy'r cyllid sydd ar gael gan Cadw Cymru'n Daclus a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur."



Llongyfarchiadau i bawb yng Ngorsaf Dân Rhydaman a gyfrannodd at ddod â'r prosiect yn fyw. Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r ardd yn parhau i dyfu a datblygu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf