Am 12.52yp, ddydd Iau, Hydref 8fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Crymych, Castellnewydd Emlyn a Doc Penfro i ddigwyddiad yn Glanrhyd yn Aberteifi.
Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un cerbyd amaethyddol ac un sied amaethyddol, oedd yn mesur tua 40 metr wrth 10 metr.
Defnyddiodd y criwiau offer lledaenu ac offer bach i gael mynediad i’r sied, chwistrell olwyn piben, prif bibellau, pum set o offer anadlu ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.
Gadawodd y criwiau am 3.21yp.