12.10.2026

Digwyddiad: Tân Adeilad Masnachol ym Machynlleth

Ddydd Sul, Hydref 11eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Machynlleth, Aberystwyth a Llanidloes i ddigwyddiad yn Ystâd Ddiwydiannol Treowain ym Machynlleth.

Gan Steffan John



Am 7.58yb, ddydd Sul, Hydref 11eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Machynlleth, Aberystwyth a Llanidloes i ddigwyddiad yn Ystâd Ddiwydiannol Treowain ym Machynlleth.




Gyda chymorth criw o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig, ymatebodd Diffoddwyr Tân i dân mewn adeilad masnachol deulawr, yn mesur tua 40 metr wrth 20 metr.  Defnyddiodd y criwiau dair chwistrell olwyn piben, dau brif chwistrell ac offer anadlu i ddiffodd y tân.

Cafodd y Diffoddwyr Tân gymorth ychwanegol drwy bresenoldeb peiriant ysgol trofwrdd o Orsaf Dân Aberystwyth a thancer dŵr o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig.

Gadawodd y criwiau olaf y safle am 2.49yp.  Cynhaliwyd ail arolwg fore Llun, Hydref 12fed, ac ni nodwyd unrhyw fannau poeth pellach yn ystod y broses honno.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf