02.06.2026

Dathlu Ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad Newydd

Ddydd Llun, 1 Mehefin, cynhaliwyd Seremoni Cwblhau Hyfforddiant yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood i ddathlu cyflawniadau ein grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, sydd bellach yn barod i gefnogi a diogelu cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Lily Evans



Ddydd Llun, 1 Mehefin, cynhaliwyd Seremoni Cwblhau Hyfforddiant yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood i ddathlu cyflawniadau ein grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, sydd bellach yn barod i gefnogi a diogelu cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.



Daeth y seremoni â theulu, ffrindiau a phersonél y Gwasanaeth Tân ynghyd i gydnabod ymroddiad ac ymrwymiad pump unigolyn sydd wedi cwblhau wythnosau o hyfforddiant dwys. Wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad, byddant yn rhoi cefnogaeth hanfodol i'w Gorsafoedd Tân lleol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Yn ystod y seremoni, cymerodd y recriwtiaid newydd ran mewn cyfres o arddangosfeydd iard ymarfer, gan ddangos y sgiliau ymateb brys maen nhw wedi'u datblygu trwy gydol eu hyfforddiant. Daeth y digwyddiad i ben gyda chyflwyno tystysgrifau i gydnabod eu cyflawniad.

Yn eu rolau newydd, bydd y Diffoddwyr Tân hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ymateb i argyfyngau, cefnogi gweithgarwch atal a helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.

Llongyfarchiadau i'n holl recriwtiaid newydd, a chroeso i'r tîm.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf