29.09.2026

Ardal Lesiant yng Ngorsaf Dân y Cymer

Yn ddiweddar, cafodd Gorsaf Dân y Cymer sied llesiant awyr agored newydd diolch i Brosiect Seilwaith Gwyrdd ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Gan Rachel Kestin



Yn ddiweddar, cafodd Gorsaf Dân y Cymer sied llesiant awyr agored newydd diolch i Brosiect Seilwaith Gwyrdd ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn rhan bwysig o greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, ac mae'r ardal lesiant newydd hon yn rhoi lle croesawgar i'r criw yng Ngorsaf Dân y Cymer ymlacio, cysylltu gyda chydweithwyr a chymryd amser i ffwrdd o ofynion eu  dyletswyddau gweithredol.

Wedi'i hadeiladu gyda chynaliadwyedd mewn golwg, mae'r sied yn cynnwys wal fyw y gellir ei dyfrhau'n naturiol gan ddefnyddio dŵr glaw a gasglwyd o'r to. Y tu mewn i'r sied mae lle cyfforddus i'r criw ymlacio, ynghyd â soffa a barbeciw (i'w ddefnyddio y tu allan), y ddau wedi’u rhoi yn garedig i helpu i greu ardal ddeniadol ar gyfer cysylltu’n gymdeithasol a hybu llesiant.

Dywedodd Stuart Furnell, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân y Cymer:

"Mae hon yn llawer mwy na sied. Mae'n fan lle gallwn ymlacio, cefnogi ein gilydd a blaenoriaethu ein llesiant. Hoffem ddiolch i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a phawb a roddodd o’u hamser a'u hadnoddau i’w gwneud yn bosibl."



Mae'r cyfleuster newydd yn adlewyrchu pwysigrwydd gofalu am iechyd corfforol a meddyliol a bydd yn rhoi man pwrpasol i griwiau Gorsaf Dân y Cymer ddadflino, cysylltu â’i gilydd a mwynhau manteision yr awyr agored!

Diolch yn fawr iawn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am eu cefnogaeth.


Erthygl Flaenorol