21.05.2026

Ymateb Aml-Asiantaeth i Achub Ci yn Noc Penfro

Ddydd Iau, Mai 21ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Doc Penfro a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ger Parc Busnes Pont Cleddau yn Noc Penfro.

Gan Steffan John



Am 12.41yb, ddydd Iau, Mai 21ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Doc Penfro a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ger Parc Busnes Pont Cleddau yn Noc Penfro.

Ymatebodd y criwiau yn dilyn adroddiadau am gi Alsatian o'r enw Lunar a oedd wedi cwympo i lawr arglawdd a oedd yn sownd wrth ymyl y dŵr ac nad oedd yn gallu dringo i ddiogelwch.

Roedd angen ymateb aml-asiantaeth ar gyfer y digwyddiad, gyda chriwiau'n gweithio ochr yn ochr â Gwylwyr y Glannau EM, yr RNLI a thimau Chwilio ac Achub Dronau i leoli ac achub Lunar.  Llwyddodd tîm cychod yr RNLI i achub Lunar yn ddiogel a'i dychwelyd i dir sych, lle cafodd ei hailuno â'i pherchnogion ddiolchgar iawn.

Mae’r llun yn dangos yr holl dimau gyda Lunar a'i pherchnogion.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol