06.05.2026

Y Diffoddwr Tân Bobi Jones: Cydbwyso Gwaith Ysgol ag Achub Bywydau

Mae Bobi Jones yn cydbwyso bywyd disgybl chweched dosbarth gyda gwaith nad yw’r rhan fwyaf o oedolion erioed wedi'i wneud – mae'n un o Ddiffoddwyr Tân ieuengaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Mae Bobi Jones yn cydbwyso bywyd disgybl chweched dosbarth gyda gwaith nad yw’r rhan fwyaf o oedolion erioed wedi'i wneud – mae'n un o Ddiffoddwyr Tân ieuengaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Pan fo’r teclyn galw yn canu, mae Bobi, 18 oed, yn gadael yr ysgol ac yn brysio i’r Orsaf Dân i fod yn un o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad ieuengaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).  Mae'n ymateb i ddigwyddiadau yn ei amser ei hun, ac mae hefyd wedi cael caniatâd arbennig gan Ysgol Bro Teifi i adael cyfnodau rhydd pan fydd galwad frys.

Gwnaeth Bobi gais i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar-alwad ychydig cyn ei ben-blwydd yn 18 oed, gan ddilyn yn ôl troed ei frawd, ei dad, ei ewythr a’i dad-cu, tair cenhedlaeth o Ddiffoddwyr Tân a thros 75 mlynedd o wasanaeth gyda’i gilydd.  Mae gwasanaeth ei deulu yn adlewyrchu’r gwreiddiau cymunedol a'r ymdeimlad o ddyletswydd sydd wedi bod yn sail i GTACGC ers deng mlynedd ar hugain. 

Ac yntau wedi treulio amser o gwmpas yr Orsaf Dân leol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub ers ei blentyndod, roedd Bobi yn awyddus i ymuno â'r Gwasanaeth.  Gan fod prawf pwynt mynediad ar y ffordd, gwnaeth gais cyn gynted ag yr oedd yn gymwys i wneud hynny.




Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant cychwynnol, ymunodd Bobi â'r criw yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn ym mis Tachwedd 2025, ac ers hynny mae wedi mwynhau ymateb i ddigwyddiadau wrth feithrin sgiliau a gwybodaeth.  Un digwyddiad amlwg oedd tân mewn campfa leol, lle bu’n helpu i rolio pibellau a sefydlu llinellau diogelwch.

Yn ogystal â dilyn ôl troed ei deulu, dywed Bobi ei fod wedi ymuno â GTACGC gan ei fod eisiau cefnogi ei gymuned leol, a bod hynny’n rhoi boddhad mawr iddo.  Ynghyd â’i waith ar yr ochr weithredol, a'i le ar dîm rygbi Castellnewydd Emlyn, mae Bobi yn astudio Safon Uwch Busnes a Chwaraeon ac mae'n bwriadu dechrau prentisiaeth trydanwr ar ôl gorffen yr ysgol, gyda'r nod hirdymor o ddod yn Ddiffoddwr Tân Amser Llawn Amser.





Wrth siarad am gydbwyso ei waith fel Diffoddwr Tân Ar Alwad gyda’i astudiaethau chweched dosbarth yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, dywedodd Bobi:

"Mae criw da yma yng Ngorsaf Castellnewydd Emlyn gan gynnwys aelodau o fy nheulu.  Rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd ac mae cyfeillgarwch gwych yma.”

Pan ofynnwyd iddo pa gyngor y byddai'n ei roi i rywun sy'n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, dywedodd:

"Byddwn i'n dweud wrthyn nhw am fynd amdani, mae’r opsiynau argaeledd yn ddigon hyblyg i weddu i bawb ac mae'r Gwasanaeth bob amser yn recriwtio ar gyfer mwy o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.”




Bobi yn ystod ei hyfforddiant.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Helpwch Ni i Gynllunio’r 30 Mlynedd Nesaf

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad. 

Mae diffoddwyr tân ar alwad fel Bobi yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth ac yn amddiffyn ein cymunedau, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae swydd Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys tâl cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.

Dysgwch fwy yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf