Yn ddiweddar, mae Tîm Hydrantau Dŵr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cwblhau ei hyfforddiant archwilio iechyd chwe mis, gan helpu i sicrhau bod hydrantau tân bob amser ar gael ac yn effeithiol ar draws ardal y Gwasanaeth.
Fel rhan o'r hyfforddiant, gwnaeth aelodau'r tîm waith cynnal a chadw yng Ngorsaf Dân Cydweli, gan gynnwys torri glaswellt, tocio gwrychoedd a thynnu chwyn gan ddefnyddio amryw o declynnau aml-offeryn a chwythwyr dail wedi’u pweru gan fatri.
Mae'r offer hwn yn chwarae rhan hanfodol yn rhaglen arolygu’r Tîm Hydrantau, gan alluogi i arolygwyr gael gafael clir ar hydrantau a all yn aml gael eu cuddio gan lystyfiant a gordyfiant. Mae cadw hydrantau yn weladwy ac yn hygyrch yn hanfodol er mwyn sicrhau y gellir eu lleoli, eu harchwilio a'u defnyddio'n gyflym pan fydd eu hangen fwyaf ar griwiau.
Mae gweithgareddau hyfforddi a chynnal a chadw rheolaidd fel y rhain yn helpu'r tîm i barhau i baratoi i gynnal arolygiadau yn effeithlon, gan gefnogi gallu'r Gwasanaeth i ymateb i argyfyngau a diogelu cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.