Bydd Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn croesawu’r gymuned ddydd Llun, Mawrth 16eg ar gyfer noson agored a sesiwn hyfforddi Cymorth Cyntaf am ddim.
Bydd y noson agored yn cynnig cyfle i drigolion archwilio'r Orsaf Dân, dysgu mwy am waith y criw o Ddiffoddwyr Tân, cyfleoedd recriwtio o fewn GTACGC a dysgu sgiliau Cymorth Cyntaf ymarferol, gan gynnwys sut i ddefnyddio pecyn rheoli gwaedu mynediad cyhoeddus, a allai wneud gwahaniaeth achub bywyd mewn argyfwng.
Yn ogystal â’r hyfforddiant, bydd cyfle i ymwelwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, neu ddysgu am rolau eraill o fewn GTACGC, siarad yn uniongyrchol ag aelodau'r criw am recriwtio, llwybrau hyfforddi a pha ymrwymiad sydd ei angen ar gyfer y rôl. Nod y digwyddiad yw annog mwy o bobl i ystyried ymuno â'r tîm a chefnogi diogelwch a chydnerthedd y gymuned leol.
Mae croeso i bawb a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol.
Manylion y Digwyddiad: 6.30-8.30yh, ddydd Llun, Mawrth 16eg
Lleoliad: Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll, Heol Aberhonddu, Y Gelli Gandryll, Powys, HR3 5DY