Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub cyntaf yng Nghymru i osod biniau iechydol i ddynion ag anymataliaeth a chanser y prostad.
Mae GTACGC yn ymuno â menter The BOG STANDARD phs Group a Prostate Cancer UK, sy’n cefnogi dynion ag anymataliaeth, y mae llawer ohonynt wedi cael triniaeth canser y prostad sy’n achub bywydau
Bydd un o bob wyth o ddynion yn cael canser y prostad ac mae’ch risg yn dyblu i un o bob pedwar os ydych chi’n Ddu, ond gellir ei wella os caiff ei ganfod yn gynnar. Gallai cymaint â 60% o ddynion sy’n cael prostadectomi radical (tynnu’r prostad cyfan a chelloedd canser y prostad y tu mewn iddo trwy lawdriniaeth) brofi anymataliaeth wrinol. Ond, mae cyfleusterau gwaredu addas mewn toiledau cyhoeddus i ddynion yn brin o hyd.
Ar hyn o bryd, mae dros 1,400 o bobl yn gweithio i GTACGC ac mae 81% o’r rhain yn ddynion. Mae hyn yn golygu bod nifer enfawr o staff mewn perygl o’r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion, ac o anymataliaeth a all fod yn un o sgil-effeithiau’r driniaeth.
Er gwaethaf y ffigurau syfrdanol hyn, ychydig iawn o sefydliadau sydd wedi gwneud trefniadau i ofalu am ddynion ag anymataliaeth, ond ni fydd hyn yn broblem i ddynion yng GTACGC. Mae’r sefydliad wedi gosod 26 o finiau anymataliaeth sydd wedi’u dylunio’n arbennig i ddynion (sy’n ddigon mawr ar gyfer nwyddau anymataliaeth i ddynion) ar draws 22 o’i safleoedd.
GTACGC yw’r sefydliad Tân ac Achub cyntaf yng Nghymru i osod biniau iechydol sydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer dynion mewn toiledau dynion. Mae’r biniau’n addas ar gyfer dynion ag anymataliaeth, y mae llawer ohonynt wedi cael triniaeth canser y prostad sydd wedi achub eu bywydau.
Trwy gefnogi dynion a rhoi’r mesurau hyn ar waith, mae GTACGC wedi ymrwymo i BOG STANDARD – sef y safonau gofynnol y mae Prostate Cancer UK a’r darparwr gwasanaethau hylendid phs Group, yn gofyn i sefydliadau eu rhoi ar waith ar gyfer dynion ag anymataliaeth.