19.12.2025

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dathlu Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn newydd – Carfan 03/25

Ddydd Iau, 16 Rhagfyr, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Raddio a Seremoni Cwblhau Hyfforddiant ar gyfer y grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Iau, 16 Rhagfyr, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Raddio a Seremoni Cwblhau Hyfforddiant ar gyfer y grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Cynhaliwyd y seremoni, a agorwyd gan y Prif Swyddog Tân Craig Flannery, yng Nghanolfan Hyfforddi GTACGC Earlswood, a daeth teulu, ffrindiau a phersonél y Gwasanaeth Tân ynghyd i ddathlu cyflawniadau anhygoel yr 11 unigolyn sy'n newid o fod Ar Alwad, ac yn dechrau eu gyrfaoedd yn gwasanaethu cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Bu Carfan 03/25, fel y'u gelwir, ar daith drawsnewidiol gyda'i gilydd wrth iddyn nhw gwblhau 11 wythnos o hyfforddiant trylwyr.



Dywedodd y Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, Stuart Bate:

"O ddiwrnod cyntaf yr hyfforddiant, mae Carfan 03/25 wedi dangos dewrder, disgyblaeth, a phenderfyniad i gynnal traddodiadau mwyaf urddasol y Gwasanaeth Tân.

Trwy gydol eu taith maent wedi wynebu cyfres o heriau anodd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Maent wedi dangos gwydnwch eithriadol, ac wedi croesawu gwerthoedd gwaith tîm, uniondeb ac anhunanoldeb sy'n diffinio ein proffesiwn.

Heddiw, wrth i ni ddod ynghyd i ddathlu eu llwyddiannau, ni ddylem anghofio'r aberth y maent wedi'i wneud a'r ymroddiad y maent wedi'i ddangos. Maent wedi dewis llwybr sy'n gofyn am ddewrder, tosturi, ac ymdeimlad dwfn o ddyletswydd tuag at eraill. Mae gen i ymdeimlad enfawr o falchder ac edmygedd wrth feddwl am y daith ryfeddol y mae'r graddedigion hyn wedi bod arni dros yr 11 wythnos ddiwethaf. Llongyfarchiadau, raddedigion.”



Roedd y Seremoni yn cynnwys Arolygiad o'r Recriwtiaid gan y Prif Swyddog Tân, Craig Flannery, Aelod Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Lyndon Jones a'r Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, y Rheolwr Grŵp Stuart Bate. 

Cynhaliwyd sawl Arddangosfa Iard Ymarfer i ddangos yn llawn y sgiliau ymateb brys y mae pob aelod o Garfan 03/25 wedi'u ddatblygu yn ystod eu hyfforddiant, ac yna cafwyd Cyflwyniad Tystysgrifau a Gwobrau.





Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Craig Flannery:

"Fe wnaethom ni ddathlu cyflawniadau rhyfeddol carfan 03/25 sydd wedi cael un wythnos ar ddeg o hyfforddiant trwyadl ac wedi nodi pwynt arwyddocaol yn eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Fel rhan annatod o seilwaith ymateb argyfwng Cymru, mae GTACGC yn enghraifft o broffesiynoldeb, parodrwydd ac ymroddiad diwyro i ddiogelwch y cyhoedd ac rydych bellach yn rhan hanfodol o'r gwaith hwn.

Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Adran Cyflenwi Hyfforddiant sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno cwrs hyfforddi o'r radd flaenaf i'n recriwtiaid newydd. Heb y sgiliau, y wybodaeth arbenigol a’r ymroddiad, ni fyddai hyn yn bosibl.



Cyn bo hir bydd pob un sydd wedi graddio yn dechrau eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn yn eu Gorsaf Dân ddynodedig.  Mae pawb yn GTACGC yn eu llongyfarch ac yn dymuno gyrfa hir a llwyddiannus i bob un ohonynt.

--------

Tystysgrif Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn

Cyflwynwyd tystysgrif wedi'i fframio gan y Prif Swyddog Tân Craig Flannery i bob Diffoddwr Tân Amser Cyflawn i gydnabod eu bod wedi cwblhau'r Cwrs Hyfforddi un ar ddeg wythnos Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn yn llwyddiannus.






Cyflwyno Gwobr Arbennig Ffitrwydd Corfforol a Chlwb 300

Mae’r wobr hon sy’n cael ei dyfarnu gan Dîm Ffitrwydd y Gwasanaeth yn cael ei chyflwyno i’r recriwt sydd wedi gwthio’i hun i’r eithaf yn gyson ac sydd wedi ymdrechu i wneud eu gorau glas bob tro.

O Garfan 03/25, cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Ffitrwydd Corfforol i Dale Wells gan y Prif Swyddog Tân Craig Flannery. Cyflwynwyd gwobr Clwb 300 i Molly Jones, Dale Wells, Matthew Evans, Rylee Roberts a Owain Thomas gan y Prif Swyddog Tân Craig Flannery.



Gwobr Recriwt y Recriwtiaid

Mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael eu dewis gan y recriwtiaid eraill ar y cwrs.  Mae’n cael ei rhoi i'r recriwt sydd wedi ymdrechu orau yn bersonol ac wrth helpu ei gyd-recriwtiaid.  Mae hon yn wobr arwyddocaol gan ei bod yn rhoi sylw i unigolyn sy'n perfformio'n arbennig o dda.

Cyflwynwyd y wobr i Matthew Evans gan Aelod Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Lyndon Jones



Y Wobr i’r Recriwt â’r Perfformiad Gorau

Rhoddir y Fwyell Arian i'r recriwt sy'n perfformio orau ar y cwrs ac mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael eu dewis gan eu prif hyfforddwyr.  Bydd y recriwt sy'n perfformio orau wedi perfformio ar lefel uchel yn gyson ym mhob tasg drwy gydol y cwrs.  Mae gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, canlyniadau arholiadau, arweinyddiaeth a gweithio fel rhan o dîm i gyd yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar y recriwt sydd wedi perfformio orau.

Cyflwynwyd y wobr i Owain Thomas gan y Prif Swyddog Tân Craig Flannery.

Erthygl Flaenorol