Yn mynychu’r gwasanaeth carolau oedd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Craig Flannery, a ddywedodd:
“Roedd gwasanaeth carolau heno yn achlysur gwirioneddol arbennig i bawb a oedd yn cymryd rhan. Wrth ddod â’n Diffoddwyr Tân, trigolion Neuadd Maldwyn a chymuned ehangach y Trallwng ynghyd, mae noson gydag awyrgylch cynnes a chalonogol wedi’i chreu, sy’n adlewyrchu’r gorau o’n Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae digwyddiadau fel Gwasanaeth Carolau Elusen y Trallwng yn ein hatgoffa o’r cysylltiadau cryf rydyn ni’n eu rhannu a’r gefnogaeth anhygoel sy’n amgylchynu ein Gwasanaeth.”
Dywedodd y Rheolwr Gwylfa Brendan Mcwhinnie, a drefnodd y digwyddiad:
“Hoffwn ddiolch i bersonél yr Orsaf am eu cefnogaeth wrth drefnu digwyddiad sy’n rhan fawr o ddathliadau Nadolig cymuned y Trallwng.
Mae fy niolch hefyd yn mynd i drigolion Neuadd Maldwyn a chymuned y Trallwng am eu cefnogaeth wrth wneud digwyddiad eleni yn gymaint o lwyddiant.”