29.05.2026

Digwyddiad: Tân Eiddo a Achoswyd gan Fellt yng Nglanaman

Ddydd Mercher, Mai 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Dyffryn Aman, Llandeilo a Threforys eu galw i ddigwyddiad yng Nglanaman.

Gan Steffan John



Am 11.23yh, ddydd Mercher, Mai 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Dyffryn Aman, Llandeilo a Threforys eu galw i ddigwyddiad yng Nglanaman.

Ymatebodd y criwiau i dân mewn eiddo pâr deulawr.  Roedd yr eiddo wedi cael ei daro gan fellten a wnaeth gynnau tân ar do’r eiddo.  Defnyddiodd y criwiau chwech set o gyfarpar anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, tri chamera delweddu thermol, ysgolion a bachau to i ddiffodd y tân.

Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb y peiriant ysgol drofwrdd awyr o Orsaf Dân Treforys.

Achoswyd difrod sylweddol i'r eiddo gan y tân a lledaenodd y tân i eiddo cyfagos.  Cafodd pawb eu cyfrif ac ni adroddwyd am unrhyw anafiadau.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth i'r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r Grid Cenedlaethol hefyd yn bresennol.

Gadawodd y criwiau am 2.45yb, ddydd Iau, Mai 28ain.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf