22.09.2026

Diffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am Gwblhau’r Her Tunnel to Towers 5K yn Efrog Newydd

Bydd Tommy Hatton, un o Ddiffoddwr Tân Gorsaf Dân Crucywel, yn ceisio cwblhau'r her gan wisgo ei holl git tân er mwyn anrhydeddu'r rhai a fu farw ar 9/11 ac i gasglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Gan Steffan John



Bydd Tommy Hatton, un o Ddiffoddwr Tân Gorsaf Dân Crucywel, yn ceisio cwblhau'r her gan wisgo ei holl git tân er mwyn anrhydeddu'r rhai a fu farw ar 9/11 ac i gasglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Bydd Tommy Hatton, Rheolwr Criw o Orsaf Dân Crucywel a Diffoddwr Tân yng Nghanolfan Rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), yn teithio i Efrog Newydd yn hwyrach yn y mis i geisio cwblhau’r her Tunnel to Towers 5k enwog ar ddydd Sul, 27 Medi.

Dyma ddigwyddiad blynyddol i anrhydeddu'r 343 o Ddiffoddwyr Tân o Adran Dân Dinas Efrog Newydd (FDNY), yr aelodau o’r heddlu a’r miloedd o sifiliaid a laddwyd yn ymosodiadau 11 Medi, 2001.

Bob blwyddyn, mae degau o filoedd o redwyr, cerddwyr, ymatebwyr cyntaf a chyn-filwyr yn dilyn ôl troed Diffoddwr Tân FDNY, Stephen Siller, ar ei daith olaf.  Roedd Stephen newydd orffen ei sifft pan glywodd y newyddion bod awyren wedi taro Canolfan Masnach y Byd. Gyrrodd at fynedfa’r Brooklyn Battery Tunnel, a gweld ei fod ar gau am resymau diogelwch.  Er hyn, roedd yn benderfynol o helpu, a rhedodd trwy'r twnnel a’r holl ffordd at y tyrau gan gario dros 60 pwys o offer diffodd tanau. Bu farw yno yn helpu eraill.

Bydd Tommy yn dilyn y llwybr 5K yn ei holl git diffodd tân er cof am y rhai a fu farw ar 9/11 ac i gasglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n darparu cymorth gydol oes i aelodau cymuned tân ac achub y DU sy’n gwasanaethu yn awr neu wedi ymddeol.



Dywedodd y Rheolwr Criw, Tommy Hatton:

"Byddaf yn rhedeg y Tunnel to Towers 5K eleni mewn cit tan llawn er cof am bawb a fu farw yn ymosodiadau 9/11 ac er mwyn casglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mae'r elusen yn arbennig o bwysig i mi yn bersonol, rwyf i fy hun wedi elwa o'i chefnogaeth a'i rhaglenni ar ôl i mi gael fy anafu. Mae'r help a ges wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly dyma gyfle i mi roi rhywbeth yn ôl yn ogystal ag anrhydeddu’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf.

Mae hefyd yn arbennig o ingol eleni gan ei bod yn 25 mlynedd ers digwyddiadau 9/11."



Mae Tommy yn casglu arian trwy ei dudalen JustGiving, a bydd yr holl elw’n cefnogi gwaith hanfodol Elusen y Diffoddwyr Tân.

Ers 25 mlynedd, mae'r Tunnel to Towers Foundation wedi anrhydeddu etifeddiaeth Stephen Siller a'r 342 aelod arall o'r FDNY a fu farw yn yr ymosodiadau terfysgol.  Trwy ei raglenni amrywiol, mae'r sefydliad yn cefnogi cyn-filwyr sydd wedi'u hanafu, ymatebwyr cyntaf a'u teuluoedd, gan helpu i sicrhau nad aiff aberth personél y gwasanaeth yn angof.




Tommy Hatton (ar y dde) yn cymhwyso fel Rheolwr Criw yng Ngorsaf Dân Crucywel, gyda'r Rheolwr Gwylfa Glenn Lewis (ar y chwith).

Erthygl Flaenorol