Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dathlu 30 mlynedd, a dyma gyfle i feddwl am y bobl sydd, trwy ymroddiad ac ymrwymiad, wedi helpu i greu ein sefydliad heddiw. Mae Helen Rees yn un o’r rheiny, ac eleni bydd hi’n nodi 25 mlynedd o wasanaeth ym maes Caffael.
Dechreuodd gefnogi’r Gwasanaeth pan gymrodd swydd Cynorthwyydd Dŵr yn 2001, ac mae ei gyrfa ers hynny wedi’i nodweddu gan ei rhagoriaeth broffesiynol, ei datblygiad personol, a’i balchder mewn bod yn rhan o rywbeth mwy.
Dros y blynyddoedd, mae Helen wedi chwarae rhan allweddol wrth adeiladu a chryfhau swyddogaeth gaffael nad oedd yn bodoli gynt, a’i droi’n dîm arobryn a medrus. Mae ei chyflawniadau yn cynnwys:
- Unigolyn y Flwyddyn, Gwobrau More Than Just Fires 2022
- Canmoliaeth Uchel – Unigolyn y Flwyddyn, Gwobrau Caffael GO Wales 2022/23
- Canmoliaeth Uchel – Cyflawni Caffael Gorau, Gwobrau Caffael GO Wales 2023/24 a 2024/25
- Cymrodoriaeth CIPS, a ddyfarnwyd yn 2024
Ond nid yr anrhydeddau yw’r unig uchafbwyntiau i Helen – y bobl a'r atgofion sydd wedi rhoi bywyd i’w thaith.
Mae ganddi lawer o atgofion melys dros y blynyddoedd, ac un o'i hatgofion cynharaf oedd pan gafodd ei galw i swyddfa'r Prif Swyddog Tân ychydig ddyddiau ar ôl dechrau ei swydd yn 2001. Roedd hi’n bendant ei bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond buan y dysgodd bod PST Ronnie King wastad yn rhoi croeso personol i bob recriwt newydd – rhywbeth sydd wedi aros gyda hi hyd heddiw. Pan ddechreuodd hi, roedd hi’n gweithio mewn caban yn Ucheldir, cyn symud i House No. 3 yn Lime Grove. Yn ddiweddarach, hi oedd un o'r aelodau staff cyntaf i symud i Bencadlys newydd sbon y Gwasanaeth. Mae Helen wedi bod yn dyst i lawer o newidiadau mwyaf y Gwasanaeth, ac wedi’u cefnogi.
Atgof amlwg arall iddi oedd cwrdd â Dug Caerloyw yn ystod agoriad swyddogol y pencadlys newydd.
Ynghyd â’r atgofion hyn, pasiodd sawl carreg filltir arwyddocaol hefyd: helpu i sefydlu swyddogaeth gaffael ffurfiol gyntaf y Gwasanaeth, cefnogi adleoli’r Storfeydd o Johnstown i Earlswood, a chyfnod byr o weithio yn yr adran Gyllid.
Mae datblygiad proffesiynol wedi bod yn nodwedd gyson o yrfa Helen, gyda'r Gwasanaeth yn cefnogi ei thaith, o gyflawni MCIPS yn 2008 i gael statws Cymrodoriaeth yn 2024 – rhywbeth na fyddai byth wedi'i ddychmygu pan ymunodd â ni gyntaf.