31.07.2026

Cyflenwadau Dŵr Preifat yn Ystod Cyfnodau o Sychder

Er bod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymwybodol o'r effaith y gall y sychder yng Nghymru ei chael, nid ydym yn gallu darparu cyflenwadau dŵr i eiddo preifat. 

Gan Steffan John




Gyda sychder wedi'i ddatgan ar gyfer Cymru gyfan, gall rhai aelwydydd sy'n dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat fod yn cael anawsterau.

Er bod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymwybodol o'r effaith y gall hyn ei chael, nid ydym yn gallu darparu cyflenwadau dŵr i eiddo preifat.  Mae'r dŵr sy’n cael ei gario ar injans tân a cherbydau gweithredol eraill wedi'i fwriadu ar gyfer diffodd tân ac nid yw'n addas i'w yfed na’i ddefnyddio mewn cartrefi.

Os ydych chi'n cael problemau gyda’ch cyflenwad dŵr, cysylltwch â:

Mae rhagor o gyngor sychder ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.




Mwy o Risg o Danau Gwyllt

Mae’r tanau gwyllt helaeth ar draws gogledd a de-ddwyrain Cymru yn ddiweddar wedi tynnu sylw at ba mor sych yw ein tirwedd.

Mae'r amodau sych hirfaith hyn yn cynyddu'r risg o danau gwyllt yn sylweddol.  Mae cynnau tanau’n fwriadol yn drosedd ddifrifol a all roi bywydau mewn perygl ac achosi difrod sylweddol i eiddo ac i’r amgylchedd. 

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gweithio ar y cyd i atal, rheoli a chyfyngu tanau gwyllt ledled Cymru drwy ei ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Mae GTACGC yn annog pawb i gymryd gofal ychwanegol ac i ddilyn y mesurau diogelwch hyn er mwyn osgoi tanau gwyllt dinistriol a rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys ac ar adnoddau:

  • Osgowch gynnau tanau yn yr awyr agored, yn enwedig yn yr amodau sych presennol
  • Peidiwch byth â gadael tân gwersyll, pyllau tân na barbeciws heb neb yn cadw golwg arnyn nhw
  • Gwnewch yn siŵr bod pob tân, barbeciw a gril tafladwy wedi'i ddiffodd yn llwyr cyn ei adael
  • Peidiwch â thaflu sigaréts, matsis na phethau ysmygu ar y ddaear nac o ffenestri cerbydau
  • Ewch â'ch holl sbwriel adref gyda chi, yn enwedig poteli gwydr, sy'n gallu dwysáu golau’r haul a chynyddu'r risg o dân
  • Rhowch wybod am arwyddion o dân gwyllt ar unwaith drwy ffonio 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Os byddwch yn gweld ymddygiad amheus neu rywun yn cynnau tân yn fwriadol, rhowch wybod i'r Heddlu

 

Ewch yma i gael adnoddau a negeseuon cymeradwy Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru.


Erthygl Flaenorol