Diolch i feddwl cyflym ac effro aelodau o Wylfa Wen Canol Abertawe ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, llwyddodd ein criwiau i atal dwy sefyllfa a allai fod wedi peryglu bywydau. Nid yn unig y gwnaeth eu gwyliadwriaeth ddangos mor broffesiynol ydynt ond dangosodd hefyd y rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae wrth gadw'r gymuned yn ddiogel.
Yn sgil pryderon a godwyd gan Wylfa Wen Canol Abertawe, ymunodd Swyddog TAC ac aelodau o’r tîm Diogelwch Tân Busnesau (BFS) â Swyddogion Tai Cyngor Dinas Abertawe a Heddlu De Cymru i gynnal ymweliad ar y cyd ag eiddo lle roedd pobl yn byw. Gan weithio gyda'i gilydd, cynhaliodd y timau asesiad trylwyr a arweiniodd at gyhoeddi hysbysiad gwahardd gan yr Awdurdod Lleol. O ganlyniad uniongyrchol i'r ymyrraeth hon, cafodd tri o'r preswylwyr eu hailgartrefu'n ddiogel, gan sicrhau eu bod wedi cael eu symud o amgylchedd anniogel a'u bod wedi cael cymorth ar unwaith.
Wrth ddychwelyd o'r digwyddiad, daeth y Rheolwyr Gwylfa Phil O'Shea a Simon Jones (BFS) ar draws argyfwng arall. Fe ddaethon nhw ar draws person yn sefyll yng nghanol y ffordd a oedd yn profi argyfwng iechyd meddwl. Heb oedi, a chan fynd y tu hwnt i ofynion eu swydd, fe aethon nhw ati i ddiogelu'r unigolyn. Fe wnaeth eu hymyrraeth dawel ac amserol ddiogelu lles y person a sicrhau eu bod yn cael eu cludo'n ddiogel i'r ysbyty i gael y gofal oedd ei angen arnynt.
Dywedodd Pennaeth y tîm BFS, y Rheolwr Grŵp Mathew Roberts: