Swyddi gwag cyfredol



Byddwch yn rhan o Dîm Eithriadol

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer y rolau canlynol. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar deitl y swydd os gwelwch yn dda.



Tîm Arwain Gweithredol




Diffoddwyr Tân Ar Alwad



Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn y gorsafoedd canlynol:

Rhanbarth y Gogledd

Ceredigion
Aberystwyth
Tregaron
Cei Newydd
Aberaeron
Llanbedr Pont Steffan
Aberteifi
Borth

Powys
Y Drenewydd
Machynlleth
Trefaldwyn
Y Trallwng
Llanfair Caereinion
Llanfyllin
Llanidloes
Trefyclo
Rhaeadr Gwy
Aberhonddu
Aber-craf
Crucywel
Llandrindod 
Llanfair ym Muallt
Llanwrtyd 
Y Gelli Gandryll
Llanandras
Talgarth

Rhanbarth y Gorllewin

Sir Gaerfyrddin
Llanelli
Caerfyrddin
Cydweli
Pont-iets
Rhydaman
Y Tymbl
Castellnewydd Emlyn
Llandysul
Llandeilo
Llanymddyfri
Hendy-gwyn

Sir Benfro
Hwlffordd
Aberdaugleddau
Abergwaun
Tyddewi
Arberth
Doc Penfro
Dinbych-y-Pysgod
Crymych
Ynys Bŷr

Rhanbarth y De

Neath Port Talbot
Glyn-nedd
Y Cymer
Blaendulais
Pontardawe
Dyffryn Aman

Abertawe
Tre Rheinallt

Barod i ymgeisio?

Llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n Tîm Adnoddau Dynol mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.

Cais i Ddychwelyd i Gyflogaeth (Ar Alwad yn Unig)

Gellir cynnig yr opsiwn o "ddychwelyd i gyflogaeth" pan fydd gweithiwr wedi terfynu ei Gontract Ar Alwad â GTACGC, a hynny'n wirfoddol, ac yn gofyn am ddychwelyd i gyflogaeth o fewn pedair blynedd i'r diwrnod dyletswydd diwethaf sydd wedi'i gofnodi ar ei gyfer. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i'r cyflogeion hynny sy'n dymuno dychwelyd i rôl diffoddwr tân, a'r cyflogeion hynny yn unig. Er bod personél a fu yn Rheolwyr Criw neu Reolwyr Gwylfa yn flaenorol yn gymwys i wneud cais, dim ond i rôl diffoddwr tân y gallant ddychwelyd.

Llenwch ein ffurflen dychwelyd i wasanaeth os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n Tîm Adnoddau Dynol mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.

 

Ein Gweledigaeth ac Ymddygiadau

Gweledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Ymddygiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn disgwyl i bob aelod o staff i:

  • Fod yn Atebol
  • Fod yn Barchus
  • Fod yn Ddiduedd
  • Fod yn Foesegol
  • Ddangos Uniondeb

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn drwy gydol y broses recriwtio.

 

Diogelu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.



Staff Cymorth



Swyddog Cymorth Gweithredol (Rhan-amser)

Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin

Gradd 8: £37,280-£39,152 pro rata

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gofyn am geisiadau gan unigolion ar gyfer swydd Swyddog Cymorth Gweithredol yn Swyddfeydd y Prif Swyddogion ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin. 

Y Swydd
Bydd yr ymgeiswydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth weithredol lefel uchel, cynhwysfawr, cyfrinachol a rhagweithiol i'r Prif Swyddog Tân, y Dirprwy Brif Swyddog Tân, y Clerc, Swyddog Adran 151 ac aelodau'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, a byddant yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am redeg Swyddfeydd y Prif Swyddogion o ddydd i ddydd.

Mae'r rôl yn golygu bod yn ddolen gyswllt rhwng y Tîm Arweinyddiaeth Weithredol a chyflogeion eraill y Gwasanaeth, a Chadeirydd ac Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub, y cyhoedd, a sefydliadau a chymdeithasau eraill. Bydd yr unigol llwyddiannus yn cynorthwyo i feithrin a chynnal y perthnasoedd hyn fel y bo'n briodol.

Mae hon yn swydd rhan-amser, 15 awr yr wythnos, dros 2 ddiwrnod.

Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi hyn, cysylltwch â'r Prif Swyddog Tân Craig Flannery neu'r Dirprwy Brif Swyddog Tân Iwan Cray trwy e-bost yn c.flannery@tangc.gov.uk neu i.cray@tangc.gov.uk.

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
27 Chwefror 2026 am 4.30yp

Pecyn Cais Am Swydd
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Canllawiau Gwneud Cais

Yr Iaith Gymraeg
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Cynorthwyydd Gyflogres (Dros Dro)

Adran Adnoddau Dynol, Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin

Gradd 4: £27,254-£28,598

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd ceisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Cynorthwyydd Gyflogres Dros Dro yn Adran Adnoddau Dynol ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin. 
Mae hon yn rôl dros dro 12 mis sy'n cynnig cyfle gwych i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyflogres effithlon.

Y Swydd
Mae'r rôl hon yn gyfle gwych i unigolyn sy'n canolbwyntio ar fanylion ac sy'n drefnus ymuno â'n tîm Cyflogres prysur. Byddwch yn cefnogi prosesu cywir pob trafodyn cyflogres, yn cynnal cofnodion cyfredol, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau PAYE, Yswiriant Gwladol a phensiwn. Byddwch yn rhoi cyngor clir i weithwyr a rheolwyr, yn ymdrin ag ymholiadau gan randdeiliaid mewnol ac allanol, ac yn helpu i gynnal gwasanaeth cyflogres effeithlon sy'n cydymffurfio â GDPR. Gan weithio ar y cyd â'r tîm, byddwch yn cyfrannu at gwrdd â therfynau amser misol, yn cefnogi cydweithwyr AD pan fo angen, ac yn cynorthwyo i hyfforddi staff newydd.

Os ydych chi'n rhagweithiol, yn ddibynadwy ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cyflogres o ansawdd uchel, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Swydd amser llawn, yn gweithio 37 awr yr wythnos gydag oriau hyblyg yn unol â chynllun amser hyblyg y Gwasanaeth.

Ymholiadau
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â'r Uwch Swyddog Cyflogres, Phoebe Tucker ar p.tucker@mawwfire.gov.uk

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
23 Chwefror 2026 am 4.30yp

Pecyn Cais Am Swydd
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Canllawiau Gwneud Cais

Yr Iaith Gymraeg
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Gweinyddwr Rhwydwaith TGCh

Adran TGCh, Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin

Gradd 9: £39,862-£41,771

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd ceisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Gweinyddwr Rhwydwaith TGCh yn yr Adran TGCh ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin. 

Y Swydd
Gan weithio fel rhan o’r tîm Systemau Busnes, mae’r rôl hon yn darparu swyddogaeth hanfodol i’r Gwasanaeth, gan sicrhau bod seilwaith y prif rwydwaith yn rhedeg yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel.

Mae'r rôl hon yn gyfuniad o beirianneg dechnegol ymarferol, rheoli rhwydwaith ac ymateb critigol. Yn ogystal â gofalu am y rhwydwaith bydd y rôl hefyd yn goruchwylio tasgau’r Gweinyddwr Systemau er mwyn sicrhau rhywfaint o ddyblygu a’r gallu i gyflenwi ar ran eraill o fewn y tîm.

Bydd y rôl hon yn canolbwyntio'n helaeth ar ddiogelwch a seiberwydnwch, gan sicrhau parhad busnes drwy ddyblygu caledwedd.

Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth TGCh, Dafydd Lawrence ar d.lawrence@mawwfire.gov.uk.

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
24 Chwefror 2026 am 4.30yp

Pecyn Cais Am Swydd
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Canllawiau Gwneud Cais

Yr Iaith Gymraeg
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Swyddog Addysg Gymunedol

Adran Diogelwch Cymunedol, wedi'i lleoli yn Hwb Aberystwyth, Rhanbarth y Gogledd

Gradd 6 - £32,061 - £33,699

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd ceisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Swyddog Addysg Gymunedol parhaol yn yr Adran Diogelwch Cymunedol sydd wedi'i lleoli yn Hwb Aberystwyth, Rhanbarth y Gogledd. Sylwch fod angen llawer o deithio a gweithio ar eich pen eich hun i ymweld â sefydliadau addysgol ledled Ceredigion yn bennaf, ond i ysgolion ym Mhowys hefyd pan fo angen.

Y Swydd
Mae'r rôl hon yn cynnwys ymgysylltu ag addysgwyr a dysgwyr i ddarparu addysg diogelwch. Bydd hyn yn golygu ymweld â sefydliadau addysgol i gyflwyno sesiynau diogelwch tân diddorol ac addysgiadol yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd yn Saesneg pan fo angen.

Mae’r Gymraeg yn hanfodol i’r rôl hon, felly rhaid i ddeilydd y swydd allu siarad Cymraeg yn naturiol. Mae'r swydd yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae angen cyfathrebwr hyderus a diddorol sy'n gallu addasu i anghenion y gynulleidfa.

Mae hon yn swydd lawn-amser, 37 awr yr wythnos gydag oriau hyblyg yn unol â chynllun oriau hyblyg y Gwasanaeth.

Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi hyn, cysylltwch ag Ymgynghorydd Safonau Addysg, Gwenda Jenkins: gwenda.jenkins@mawwfire.gov.uk

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
25 Chwefror 2026

Pecyn Cais Am Swydd
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Canllawiau Gwneud Cais

Yr Iaith Gymraeg
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Ymarferydd Diogelwch Cymunedol Rhan-amser

Yr Adran Diogelwch Cymunedol

Gradd 5 - £29,540 -£31,022 (pro rata)

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am geisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Ymarferydd Diogelwch Cymunedol parhaol and dros dro o fewn yr Adran Diogelwch Cymunedol.

Y Rôl
Bydd deiliad y swydd yn cynnal ystod eang o fentrau diogelwch cymunedol yn unol â strategaeth y Gwasanaeth. Cynhyrchu a darparu Ymweliadau Diogel ac Iach a gweinyddu prosesau diogelwch Cymunedol yn effeithiol i'r tîm diogelwch cymunedol a chefnogi gwaith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ehangach.

Bydd y rôl hon wedi'i lleoli o fewn yr Adran berthnasol, fodd bynnag, efallai y bydd gofyniad hefyd i gefnogi gweithgareddau mewn meysydd Adrannol eraill.

Mae'r rôl hon yn rhan amser gan weithio 18.5 y wythnos ar rota newidedd 4 wythnos

Wythnos 1 & 3 - Dydd Llun, Mawrth & Mercher
Wythnos 2 & 4 - Dydd Iau & Gwener

Ymholiadau
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Rheolwr Orsaf, Gareth Hands g.hands@tancgc.gov.uk  

Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl hon, llenwch y ffurflen gais sydd, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau
16 Chwefror 2026

Pecyn Cais Am Swydd
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Canllawiau Gwneud Cais

Yr Iaith Gymraeg
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.



Diffoddwyr Tân Llawn Amser




Adran Rheoli Tân ar y Cyd




Cysylltwch â Ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yrfa yn y Gwasanaeth Tân, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen ar-lein os gwelwch yn dda.

Ein Gweledigaeth ac Ymddygiadau

Gweledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Ymddygiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn disgwyl i bob aelod o staff i:

  • Fod yn Atebol
  • Fod yn Barchus
  • Fod yn Ddiduedd
  • Fod yn Foesegol
  • Ddangos Uniondeb

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn drwy gydol y broses recriwtio.

Diogelu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.



Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd



Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyflogwr hyderus ag anableddau.



Cyfleoedd Cyfartal



Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru’n ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo Cyfleoedd Cyfartal a Thegwch yn y Gweithle.