Digwyddiadau

Yn amrywio o ddiwrnodau agored llawn gweithgareddau i olchi ceir a diwrnodau profiad, mae rhywbeth at ddant pawb



Mae yna groeso cynnes i bawb yn ein digwyddiadau cymunedol, gan gynnig cyfle gwych i chi gysylltu â’ch diffoddwyr tân lleol a chefnogi’r digwyddiadau a arweinir gan y gorsafoedd.

Nodwch y dyddiadau yn eich calendrau a chadwch olwg ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a manylion am y digwyddiadau.

Peidiwch da chi â cholli allan ar y cyffro - dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a gwahoddwch eich ffrindiau a’ch teulu.



Digwyddiadau






Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru galendr prysur o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol y flwyddyn.



Brew With a Crew at Whitland

Byddwn yn cynnal digwyddiad Paned gyda’r Criw yng Ngorsaf Dân Hendy-Gwyn ddydd Sadwrn 11 Ebrill rhwng 11am a 2pm.
Galwch heibio am sgwrs a phaned gyda rhai o'r criw!
Mae'n gyfle gwych i ddysgu mwy am rôl diffoddwr tân, a sut y gallech chi wasanaethu eich cymuned.

Dyddiad: Dydd Sadwrn, Mai 16eg

Amser: 10yb hyd at 3yp, arddangosiad byw am 10.30yb

Lleoliad: Gorsaf Dân Y Drenewydd, Heol Llanidloes, ​​​Y Drenewydd, Powys, SY16 1HF

Parcio: Eglwys Efangylaidd Y Drenewydd, Heol Llanidloes, Y Drenewydd, Powys, SY16 1HL (ni fydd parcio ar gael yn yr Orsaf Dân)

 

Yn dilyn sawl gwrthdrawiad sylweddol ar ffyrdd Powys ac i dynnu sylw at ymwybyddiaeth diogelwch ffyrdd, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal arddangosiad o wrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Ngorsaf Dân Y Drenewydd ddydd Sadwrn 16 Mai.

Rhwng 10am a 3pm, gwahoddir aelodau o'r gymuned leol i ymweld â'r Orsaf Dân ac ymgysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau brys a phartneriaid, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, i ddysgu mwy am fentrau gyrru a diogelwch ar y ffyrdd.

Bydd yr arddangosiad byw yn dechrau am 10.30am.  Bydd lluniaeth ar gael trwy garedigrwydd y Tîm Ymateb Cyflym.

Ewch i Eventbrite i archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn.

Biker Down Cymru Powys

​​​Gorsaf Dân Y Drenewydd
18 Ebrill | 9:30am-12:30pm
23 Mai | 9:30am-12:30pm
20 Mehefin | 9:30am-12:30pm

​​​Gorsaf Dân ​​​Llandrindod
25 Gorffennaf | 9:30am-12:30pm
29 Awst | 9:30am-12:30pm
26 Medi | 9:30am-12:30pm

Mae ‘Biker Down’ yn gwrs cymorth cyntaf brys AM DDIM gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU.
Mwy o wybodaeth yma

Biker Down Cymru Sir Gâr

​​​Gorsaf Dân Y Caerfyrddin
23 Ebrill | 6:30pm-9:30pm
17 Medi | 6:30pm-9:30pm

​​​Gorsaf Dân ​​​Llanelli
31 Mai | 1:30pm-4:30pm
20 Hydref | 6:30pm-9:30pm

Gorsaf Dân Rhydaman
17 Mehefin | 6:30pm-9:30pm
29 Awst | 1:30pm-4:30pm
25 Tachwedd | 1:30pm-4:30pm

Gorsaf Dân Llanymddyfri
18 Gorffennaf | 2pm-5pm

Mae ‘Biker Down’ yn gwrs cymorth cyntaf brys AM DDIM gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU.
Mwy o wybodaeth yma



Dyddiau Agored







Dewch i ymweld â ni yn un o'n Diwrnodau Agored ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru! Dyma gyfle i gael ychydig o hwyl rhyngweithiol, wrth i chi gamu i esgidiau diffoddwr tân a chael blas ar yr amrywiol weithgareddau ac arddangosiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y diwrnod. Cewch weld y gwaith anhygoel y mae ein harwyr lleol yn ei wneud a chael cipolwg ar fyd diffodd tanau.

 





Golchfeydd Ceir







A oes angen golchi eich car? Rydyn ni yma i helpu! Dewch i un o’n digwyddiadau Golchi Ceir ac am gyfraniad i elusen, fe wnawn ni’n siŵr bod eich car yn disgleirio. Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân ac elusennau lleol eraill sy’n cael eu dewis gan yr Orsaf Dân dan sylw.




Golchi Ceir Gorsaf Dân Llandeilo

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 18 Ebrill
Amser: 10yb-2yp
Lleoliad: Gorsaf Dân Llandeilo, Heol Caerfyrddin, Llandeilo, Sir, Gaerfyrddin, SA19 6RP

Dewch i gefnogi!
Mwy o wybodaeth yma

Golchfa Ceir Aberdaugleddau

Golchi Ceir Gorsaf Dân Aberdaugleddau

Dyddiad: Dydd Sul, 19 Gorffennaf
Amser: 10yb-1yp
Lleoliad: Gorsaf Dân Aberdaugleddau, 9 Stryd Yorke, Aberdaugleddau SA73 2LL

Dewch i gefnogi!
Mwy o wybodaeth yma



Dyddiau Profiad a Recriwtio



Eisiau gwybod mwy am y Gwasanaeth Tân a dod yn Ddiffoddwr Tân? Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys Diwrnodau Profiad, Diwrnodau Dangos a Dweud a Nosweithiau Recriwtio. Edrychwch isod i gael gwybod pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn lleol i chi, a gobeithiwn eich gweld yn fuan!