Ein Taith Ddiwylliannol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi wedi cyhoeddi Adroddiadau Adolygiad Diwylliannol Annibynnol, gan Crest Advisory.



Ddydd Mercher, Chwefror 5ed, 2025, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru eu hadroddiadau terfynol o Adolygiad Annibynnol o Ddiwylliant a gomisiynwyd ar y cyd, a hwyluswyd gan Crest Advisory.  

Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad parhaus y Gwasanaethau Tân ac Achub i feithrin diwylliant gweithle cefnogol, cynhwysol, a blaengar. 

Roedd yr adolygiad, a gychwynnwyd mewn ymateb i gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o gynigion gwella diwylliannol y Gwasanaethau Tân ac Achub, yn asesu'r cynnydd a wnaed wrth greu amgylcheddau gweithle cadarnhaol a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach. 

Mae'n cynrychioli dechrau pennod newydd yn esblygiad diwylliannol Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Drwy weithredu'r argymhellion hyn, mae'r gwasanaethau tân ac achub yn ailddatgan eu hymroddiad i greu gweithle lle mae pob gweithiwr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u grymuso, ac i wella'r gwasanaethau a ddarperir i'w cymunedau. 



Cefndir

Daw’r Adolygiad ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn, ym mis Mawrth 2024, gynnig gan y Gwasanaethau Tân ac Achub i wella dealltwriaeth o’r cynnydd mewn gwelliannau i ddiwylliant sefydliadol y gwasanaeth.  Roedd y cynnig yn sail i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, Hannah Blythyn AS.

Ym mis Awst 2024, lansiwyd cyfnog ymgysylltu i glywed barn a phrofiadau byw yr holl staff presennol a chyn-staff a oedd dal mewn cyflogaeth ar ôl Mehefin 1af, 2021.  Bu’r cyfnod ymgysylltu yn cynnwys arolwg ar-lein, cyfweliadau a grwpiau ffocws.

 

Ynglŷn â'r Adolygiad 

Cynhaliodd Crest Advisory, arbenigwyr mewn diwylliant sefydliadol, yr adolygiad gyda mewnbwn gan staff, cyrff cynrychioliadol a rhanddeiliaid eraill. Roedd y broses yn cynnwys arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws i gael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r diwylliant gweithle presennol. 

Mae gwybodaeth gan Crest Advisory am yr adolygiad ar gael yma.