Ddydd Iau, 27 Tachwedd 2025, enillodd aelodau o dîm Addysg Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Chanolfan Arloesi Cerebra Wobr Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2025!
Roedd seremoni Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2025, a gafodd ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth dan ofal darlledwr y BBC, John-Paul Davies, yn dathlu cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol ledled Cymru. Gan gydnabod ymdrechion unigol, prosiectau cydweithredol a phartneriaethau, mae'r gwobrau'n tynnu sylw at waith hanfodol gweithwyr proffesiynol y mae eu heffaith yn cael ei beirniadu a'i anrhydeddu gan banel.
Bu Tîm Addysg Diogelwch Cymunedol GTACGC mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Cerebra i greu byrddau synhwyraidd diogelwch tân i'w defnyddio pan fydd y Tîm Addysg yn ymweld ag ysgolion AAA. Cyfrannodd y tîm syniadau, profi prototeipiau, a rhoi adborth gwerthfawr drwy gydol y prosiect.
Mae'r byrddau addysg yn gwneud diogelwch tân yn hygyrch i bob plentyn, gan gynnwys ffabrig gwisg diffoddwr tân, sipiau a felcro ar gyfer chwarae synhwyraidd, ynghyd â ffaglau, goleuadau sy'n fflachio, teganau injan dân ac olwyn lywio gyda seirenau.
Enillodd y prosiect Wobr Canmoliaeth Uchel yn y categori Diogelwch Cyhoeddus - llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, da iawn!