Ddydd Iau, Ebrill 2ail, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn falch o groesawu ei Brif Swyddog Tân cyntaf, Ronnie King OBE QFSM, i’w Bencadlys yng Nghaerfyrddin.
Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth Mr King cwrdd â Phrif Swyddog Tân presennol y Gwasanaeth, Craig Flannery, y ddau ohonynt yn wreiddiol o Swydd Efrog, i drafod y datblygiadau o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub, uchafbwyntiau eu gyrfaoedd ac arweinyddiaeth.
Mae Mr King wedi cael gyrfa nodedig, a ddechreuodd ym Mrigâd Dân Swydd Efrog ym 1961, cyn iddo symud ymlaen i wasanaethu yn Llundain, Fife, a’r Swyddfa Gartref, cyn dod yn Brif Swyddog Tân cyntaf GTACGC a ffurfiwyd yn Ebrill 1996. Ffurfiwyd GTACGC yn dilyn uno tair brigâd dân blaenorol Dyfed, Powys a Gorllewin Sir Forgannwg.
Am ei gyfraniad i’r sector tân ac achub dros sawl blwyddyn, cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Tân y Frenhines iddo ym 1984 ac OBE ym 1995. Mae hefyd yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Tân.
Drwy gydol ei yrfa, mae Mr King wedi cyfuno arweinyddiaeth weithredol ag ymrwymiad gydol oes i wella deddfwriaeth a llywodraethu diogelwch rhag tân. Drwy ei rôl yn Ysgrifennydd Gweinyddol Anrhydeddus a Chynghorydd Tân i’r Grŵp Diogelwch Rhag Tân ac Achub Seneddol Trawsbleidiol yn San Steffan, mae Mr King wedi cyfrannu at ymholiadau cenedlaethol allweddol a diwygiadau polisi yn dilyn digwyddiadau mawr fel tanau Tŷ Lakanal a Thŵr Grenfell.