18.07.2025

Parêd Cwblhau Hyfforddiant Cadetiaid y Drenewydd

Ar ddydd Llun, 14 Gorffennaf cynhaliwyd Gorymdaith Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân y Drenewydd i ddathlu llwyddiant y grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Gan Rachel Kestin



Ar ddydd Llun, 14 Gorffennaf cynhaliwyd Gorymdaith Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân y Drenewydd i ddathlu llwyddiant y grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r bobl ifanc ymroddedig hyn wedi dysgu ystod eang o sgiliau a thechnegau gwerthfawr trwy hyfforddiant ar faes ymarfer yr Orsaf Dân ac addysg yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r Cadetiaid wedi ennill cymhwyster y Cadetiaid Tân ac fe gyflwynwyd tystysgrif cyflawni iddynt gan y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Iwan Cray. Ymunodd Maer y Drenewydd, Peter Lewington ac aelodau Awdurdod Tân GTACGC, y Cynghorydd Gwyn Evans a'r Cynghorydd Elwyn Vaughan, â’r Cadetiaid yn y Drenewydd hefyd.

Dywedodd Karen Mayze, Cydgysylltydd y Cadetiaid Tân: 

“Daeth aelodau’r teulu, pobl amlwg lleol, ac aelodau’r gymuned at ei gilydd i weld Gorymdaith Cadetiaid y Drenewydd, a oedd yn dangos cyflawniadau’r cadetiaid mewn meysydd fel disgyblaeth, gwaith tîm, arweinyddiaeth, ac ymarferion. Nod y rhaglen yw meithrin hyder a pharatoi pobl ifanc ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol, ac fe roddwyd canmoliaeth am yr effaith gadarnhaol mae wedi ei gael ar y rhai oedd arni a’r gymuned ehangach. Mae'n ysbrydoliaeth gweld faint mae'r cadetiaid hyn wedi tyfu dros eu hamser gyda ni. Maen nhw wedi gweithio'n anhygoel o galed ac mae heddiw’n foment falch iddyn nhw a'u teuluoedd."




Erthygl Flaenorol