28.08.2025

Llwyddiant mawr yn Sioe Sir Benfro!

Aeth aelodau o dimau Diogelwch Cymunedol a Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i Sioe Sir Benfro yn Hwlffordd yr wythnos ddiwethaf.

Gan Rachel Kestin



Aeth aelodau o dimau Diogelwch Cymunedol a Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i Sioe Sir Benfro yn Hwlffordd yr wythnos ddiwethaf.

Cafwyd deuddydd hwyliog iawn a digonedd o weithgareddau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys taflenni lliwio Sbarc, ein cystadleuaeth 'Peryglon Trydanol', a mwy!






Roedd aelodau ein tîm Diogelwch Cymunedol a Lleihau Tanau Bwriadol wrth law i rannu cyngor ac arweiniad diogelwch am ddim trwy gydol y digwyddiad, ac fe gafodd stondin GTACGC rosét am fod yn un o Arddangosfeydd Mawr Gorau’r sioe!

Cyflwynwyd y wobr i Sbarc gan Mr Roger Shackleton – Llywydd Clwb Ffermwyr Gogledd Sir Benfro – tipyn o gamp i'r tîm!





Diolch i bawb a ddaeth draw i’n gweld ni! Edrychwn ymlaen at wneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf.

Erthygl Flaenorol