16.12.2025

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei Wobrwyo yng Ngwobrau Rhagoriaeth yn y Gwasanaethau Tân ac Argyfwng 2025

Mae Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ennill Gwobr Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth yn y Gwasanaethau Tân ac Argyfwng 2025.

Gan Steffan John



Mae Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ennill Gwobr Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth yn y Gwasanaethau Tân ac Argyfwng 2025.

Wedi'i gynnal yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn Sgwâr y Senedd yng nghanol Llundain, mae Gwobrau blynyddol Rhagoriaeth yn y Gwasanaethau Tân ac Argyfwng yn dod ag arweinwyr, arloeswyr a gweithwyr proffesiynol rheng flaen ynghyd i gydnabod a dathlu cyflawniadau Gwasanaethau Tân ac Argyfwng y DU a'r personél sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r sector.

Yn ystod seremoni eleni, dyfarnwyd Gwobr Prosiect y Flwyddyn i Raglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad GTACGC, am gyflawni effaith fesuradwy a thrawsnewidiol ar draws y Gwasanaeth drwy wrthdroi gostyngiad hirdymor mewn argaeledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad.




Y Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad

Bellach yn elfen allweddol o Gynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRhRC) 2040 GTACGC, sefydlwyd y Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad (y Rhaglen) yn 2023 ac mae'n ymroddedig i wella model criw Ar Alwad y Gwasanaeth.  Mae'r prosiect yn adlewyrchu cefnogaeth a buddsoddiad sylweddol gan Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Ymhlith y blaenoriaethau cychwynnol allweddol ar gyfer y Rhaglen roedd cyflwyno strategaethau recriwtio a chadw wedi'u targedu, gwella'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad a buddsoddi i wella gwydnwch y system criw Ar Alwad trwy ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth.



Ers ei sefydlu, mae'r Rhaglen wedi cael ei arwain gan y Rheolwr Grŵp Phil Morris.  Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Phil:

"Rydw i'n falch iawn bod y Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad wedi cael ei enwi'n Brosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth yn y Gwasanaethau Tân ac Argyfwng 2025!

Mae'r wobr hon yn adlewyrchu gwaith caled, angerdd ac ymrwymiad pawb sy'n gysylltiedig ar draws y Gwasanaeth.  Fe wnaethon ni geisio gwneud gwahaniaeth i'n Diffoddwyr Tân Ar Alwad a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu ac rydym wedi gwneud cryn dipyn o ymdrech i gyflawni hyn.

Mae hyn unwaith eto yn brawf bod y system ddyletswydd Ar Alwad yn ddilys fel system ddyletswydd os yw’n cael ei chefnogi gan y Gwasanaethau i sicrhau ei llwyddiant."




Llwyddiant Mesuradwy

Yn ystod y saith mlynedd cyn lansio'r Rhaglen, roedd argaeledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad GTACGC wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, o 95% i 83%.  Gyda 75% o Orsafoedd Tân GTACGC wedi'u criwio'n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, roedd hyn yn fygythiad gwirioneddol i gynaliadwyedd system griwio Ar Alwad y Gwasanaeth, yn ogystal â'i allu i ddarparu digon o wasanaeth ymateb brys i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Trwy'r gwaith a'r newidiadau dilynol a weithredwyd gan y Rhaglen, mae GTACGC wedi cyflawni cynnydd o 3% mewn argaeledd Ar Alwad, yn sylweddol uwch na'r duedd i lawr a ragwelir.  Mae hyn yn adlewyrchu sut mae GTACGC wedi gwrthsefyll tuedd ledled y DU, gan fod nifer y Diffoddwyr Tân Ar Alwad wedi gostwng 25% ers 2004.  Mae'r gostyngiad yn niferoedd y Diffoddwyr Tân wedi bod ymhlith Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn ac Ar Alwad, er ei fod wedi bod yn fwyaf sydyn ymhlith y Diffoddwyr Tân Ar Alwad.

Yn Astudiaeth Ymchwil Cenedlaethol Diffoddwyr Tân Ar Alwad, Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025, cafodd 9 o 52 Gwasanaeth Tân ac Achub y DU eu cynnwys fel astudiaethau achos.  O'r 9 hynny, GTACGC yw'r unig Wasanaeth i gael ei gynnwys ddwywaith, gan dynnu sylw ymhellach at y gwelliannau sylweddol a wnaed i system griwio Ar Alwad y Gwasanaeth.



Wrth siarad am dderbyn y wobr a'r effaith gadarnhaol y mae'r Rhaglen wedi'i chael ar GTACGC, dywedodd Uwch Swyddog Cyfrifol y rhaglen, y Prif Swyddog Tân, Craig Flannery:

"Mae'r wobr hon yn cydnabod ymdrechion y Gwasanaeth i fynd i'r afael â'r her barhaol o argaeledd a gwydnwch Ar Alwad.  Mae tynnu ar yr ymchwil fwyaf cyfoes a'i defnyddio i lywio ein cyfres o welliannau wedi dechrau dangos enillion gwirioneddol, rhai y byddwn yn parhau i'w hyrwyddo.

Enghraifft arall o arloesedd o fewn y rhaglen yw gweithredu meddalwedd newydd yn ddiweddar sy'n rhoi gwell dealltwriaeth i swyddogion goruchwylio o fylchau mewn sgiliau ac argaeledd, gan alluogi dull mwy cyfannol o recriwtio a hyfforddi i gadw'r peiriannau tân 'ar waith'.

Yr hyn sydd wedi bod yn glir o'r dechrau yw nad yw un ateb yn addas i bawb, ac rwy'n falch o ymdrechion ein Gwasanaeth i feddwl yn greadigol ac yn arloesol i fynd i'r afael â'r gwahanol faterion sy'n codi ar draws ein hardal.  Mae'r rhaglen hon yn enghraifft o'n gweledigaeth o ddarparu'r Gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru."

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Strategol Ar Alwad Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerhirfryn, Steve Healey KFSM:

"Rydw i'n llongyfarch GTACGC ar eu Gwobr Prosiect y Flwyddyn ac am y cynnydd y mae'r Gwasanaeth wedi'i wneud wrth wella ei argaeledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad.

Nid oes amheuaeth bod gwasanaethau tân ac achub ledled y DU yn wynebu heriau cynyddol wrth recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ac mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn gweithio i adolygu a symleiddio'r prosesau recriwtio, profi a chadw ar gyfer y rôl.  Ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd Diffoddwyr Tân Ar Alwad wrth amddiffyn cymunedau ledled y DU, mae tua 90% o dir y DU wedi'i wasanaethu gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, gyda thua 60% o holl Beiriannau Tân y DU yn cael eu defnyddio gan Ddiffoddwyr Tân sy'n gweithredu o dan y system dyletswydd Ar Alwad.

Mae'n addawol gweld y canlyniadau cadarnhaol y mae GTACGC wedi'u cyflawni o ganlyniad i'r newidiadau a'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed trwy eu Rhaglen Gwella Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Bydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn defnyddio'r dystiolaeth hon i barhau i weithio gyda phartneriaid craidd i ddatblygu a diogelu system griwio Diffodd Tân Ar Alwad y DU ymhellach a'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol."



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.



Yn ddiweddar, cyflwynodd GTACGC system bandio cyflogau ac argaeledd newydd.  Dyma system sy’n cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywyd personol, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i’r rhai sy’n awyddus i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae’r system bandio newydd yn cynnig pum dewis argaeledd i ddisodli’r ddau a oedd ar gael cynt, gan roi mwy fyth o hyblygrwydd i’n Diffoddwyr Tân Ar Alwad a’n darpar Ddiffoddwyr Tan Ar Alwad ddewis sut maen nhw am wasanaethu.

Bydd y system bandio newydd yn cynnwys y dewisiadau canlynol:

  • Band 5: Ar gael am o leiaf 120 awr yr wythnos.
  • Band 4: rhwng 91 awr a 119 awr yr wythnos
  • Band 3: rhwng 61 awr a 90 awr yr wythnos
  • Band 2: rhwng 31 awr a 60 awr yr wythnos
  • Band 1: hyd at 30 awr yr wythnos

Yn ogystal â’r hyblygrwydd newydd hwn, bydd y system hefyd yn cynnig gwell buddion i’n Diffoddwr Tân Ar Alwad.

  • Hyblygrwydd o ran ymrwymiad: Gall Diffoddwyr Tân Ar Alwad wasanaethu eu cymunedau heb roi’r gorau i weithio swyddi eraill, a chan gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. 
  • Tâl digolledu: Bydd Diffoddwr Tân Ar Alwad yn ennill cyflog am wneud ymarferiadau, am hyfforddi ac am ymateb i alwadau, a hynny ar ben eu tâl cadw blynyddol. 
  • Datblygiad personol: Byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr i ymateb i argyfyngau ynghyd â mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad arwain at yrfa fel Diffoddwr Tân Amser Cyflawn neu waith yn y gwasanaethau brys eraill 
Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf