10.02.2026

Gareth Hands yn Ymddeol o Orsaf Dân Aberteifi

Ar ôl bron i dair degawd o wasanaeth ymroddedig, mae’r Rheolwyr Gwylfa Gareth Hands wedi ymddeol o’i swydd yng Ngorsaf Dân Aberteifi. 

Gan Steffan John



Ar ôl bron i dair degawd o wasanaeth ymroddedig, mae’r Rheolwyr Gwylfa Gareth Hands wedi ymddeol o’i swydd yng Ngorsaf Dân Aberteifi. 

Ddydd Mercher, Ionawr 28ain, daeth Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Aberteifi, Castell Newydd Emlyn a Chrymych at ei gilydd i ddiolch i Gareth am ei ymrwymiad ac i ddathlu ei yrfa 29 mlynedd o hyd fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae Gareth wedi gwasanaethu ar draws Gorsafoedd Tân Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn, gan ddod yn aelod uchel ei barch o bob tîm.

Er ei fod yn camu i lawr fel Rheolwr Gwylfa, nid yw Gareth yn gadael Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).  Mae wedi cael ei benodi’n Rheolwr Gorsaf yn ddiweddar a bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd o fewn y Gwasanaeth.  Yn ei swydd newydd, mae Gareth yn Rheolwr Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref o fewn Adran Diogelwch Cymunedol GTACGC a bydd hefyd yn gwasanaethu fel Swyddog Tactegol, gan ddarparu arweiniad gweithredol uwch yn ystod digwyddiadau cymhleth.

Diolchwn i Gareth am ei ymrwymiad ac edrychwn ymlaen ato ddod â’i gwybodaeth, arweinyddiaeth ac arbenigedd i’w swydd newydd.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol