Am 10.33yp ddydd Sul, Awst 3ydd, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ym Mhort Tennant yn Abertawe.
Ymatebodd y criwiau i dân mewn tŷ pâr deulawr. Roedd y tân wedi datblygu’n dda ac wedi’i leoli mewn ystafell wely ar lawr cyntaf yr eiddo. Roedd y camau diffodd tân cychwynnol yn cynnwys defnyddio chwistrell olwyn piben 22mm i gyfeirio difon o ddŵr i lintel yr ystafell yr effeithiwyd arni i helpu i wasgaru dŵr ar y tân.
Roedd pobl oedd yn sefyll y tu allan i’r tŷ yn credu bod pobl yn dal i fod y tu mewn i’r eiddo, felly cafodd Diffoddwyr Tân yn gwisgo setiau o offer anadlu eu hanfon i mewn i’r eiddo. Diolch byth, ar ôl diffodd y tân a chwilio’r eiddo’n drylwyr, ni chanfuwyd unrhyw gleifion yn yr eiddo. Defnyddiodd y criwiau gyfanswm o chwe set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, camerâu delweddu thermol ac un ysgol estyniad byr i ddiffodd y tân.
Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i’r digwyddiad hwn, gyda chriwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gweithio’n agos gyda phersonél Heddlu De Cymru i reoli’r digwyddiad.