Ddydd Sadwrn 28 Mehefin, cynhaliodd Gorsaf Dân Crymych ddigwyddiad golchi ceir elusennol llwyddiannus, gan godi’r swm trawiadol o £1,500 i gefnogi tri achos gwych: Elusen y Diffoddwyr Tân, Ambiwlans Awyr Cymru a Jig-So.
Cafodd y digwyddiad gefnogaeth wych gan y gymuned leol, gyda ffrindiau, teuluoedd a thrigolion yn dod i gael glanhau eu cerbydau ar gyfer yr achos pwysig hwn.
Hoffwn ddiolch o galon i bawb a ddaeth i gefnogi ac a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad hwn.
Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth, a bydd eich cyfraniadau’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.