17.07.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Buwch yn Nhalog

Fe wnaeth Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn achub buwch a oedd yn sownd yn Nhalog ddydd Mercher, Gorffennaf 16eg.

Gan Steffan John



Fe wnaeth Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn achub buwch a oedd yn sownd yn Nhalog ddydd Mercher, Gorffennaf 16eg.

Am 7.28yh nos Fercher, Gorffennaf 16eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn i ddigwyddiad yn Nhalog yn Sir Gaerfyrddin.

Ymatebodd y criwiau i un fuwch a oedd wedi mynd yn sownd i lawr arglawdd serth.  Defnyddiodd y criwiau linellau, offer bach a pheiriannau i ryddhau’r fuwch yn llwyddiannus a’i chynorthwyo i fyny’r arglawdd.  Yna, aseswyd y fuwch gan filfeddyg a’i gadael yn ei gofal.

Gadawodd y criwiau’r lleoliad am hanner nos.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol