09.02.2026

Diffoddwyr Tân yn Cymryd Rhan Mewn Ymarfer Hyfforddi yn Llandrindod

Yn ddiweddar, cynhaliodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod ymarfer hyfforddi arbenigol yn adeilad y Gwalia yn Llandrindod. 

Gan Steffan John



Ddydd Llun, Ionawr 26ain, cynhaliodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod ymarfer hyfforddi arbenigol yn adeilad y Gwalia yn Llandrindod. 

Roedd y sesiwn yn rhan o ymrwymiad parhaus Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod Diffoddwyr Tân wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer amgylcheddau gweithredol heriol.

Canolbwyntiodd yr ymarfer ar hyfforddiant offer anadlu, gan roi cyfle i Ddiffoddwyr Tân fireinio eu sgiliau wrth weithio mewn amodau peryglus a llawn mwg.  Profodd criwiau offer anadlu ac ymarfer technegau hanfodol fel anadlu dan reolaeth, llywio mannau cyfyng, dringo grisiau a symud cleifion wrth wisgo offer amddiffynnol.

Bu Diffoddwyr Tân hefyd yn cryfhau eu parodrwydd gweithredol drwy ddefnyddio camerâu delweddu thermol, rheoli pibellau dŵr a dilyn gweithdrefnau diogelwch a chyfathrebu, gan gynnwys protocolau rheoli aer a chamau brys.  Mae ymarferion fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal y safonau uchaf o ddiogelwch a phroffesiynoldeb a ddisgwylir ar draws y Gwasanaeth i amddiffyn cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol