27.02.2026

Diffoddwyr Tân i Ymuno yn Nigwyddiad The Great Tommy Sleep Out i Gefnogi Cyn-filwyr Digartref

Ddydd Sadwrn, 28 Mawrth 2026, bydd dau Ddiffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cymryd rhan yn The Great Tommy Sleep Out.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, 28 Mawrth 2026, bydd dau Ddiffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cymryd rhan yn The Great Tommy Sleep Out.

Ar 28 Mawrth, bydd y Rheolwr Gorsaf Paul Armes a’r Rheolwr Criw Simon Church o Ranbarth y Gogledd, sy'n cynnwys Powys a Cheredigion, yn treulio’r nos yng nghanol tref y Drenewydd fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol.

The Great Tommy Sleep Out yw prif ymgyrch codi arian y Royal British Veterans Enterprise.  Bob mis Mawrth, mae unigolion a grwpiau yn ildio noson neu ddwy o gysur er mwyn gwella ymwybyddiaeth a chasglu arian hanfodol i gyn-filwyr sy'n wynebu digartrefedd.  Mae miloedd o gyn-bersonél y gwasanaethau yn wynebu digartrefedd, ac mae'r ymgyrch yn helpu i ddarparu cartrefi diogel, cymorth iechyd meddwl a llwybr yn ôl at annibyniaeth i gyn-filwyr.



Wrth siarad am ei gyfraniad i elusen Sleep Out, dywedodd y Rheolwr Gorsaf, Paul Armes:

"Mae sawl perthynas i mi wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, felly mae cefnogi cyn-filwyr yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon.  Mae cymryd rhan yn The Great Tommy Sleep Out yn rhywbeth bach dw i’n ei wneud i helpu i wella ymwybyddiaeth a chasglu arian i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint ac sydd bellach yn wynebu digartrefedd."



Gall pwy bynnag sydd eisiau cefnogi ymdrechion Paul a Simon gyfrannu ar eu tudalen JustGiving, gyda'r holl elw yn mynd yn uniongyrchol i ymgyrch The Great Tommy Sleep Out.




Y Rheolwr Gorsaf Paul Armes (ar y chwith) a’r Rheolwr Criw Simon Church (ar y dde).



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf