16.06.2025

Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Newydd ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd newydd wedi'u hethol i arwain Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dros y ddwy flynedd fwrdeistrefol nesaf.

Gan Steffan John



Mae Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd newydd wedi'u hethol i arwain Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dros y ddwy flynedd fwrdeistrefol nesaf.

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod Tân ddydd Llun, 9 Mehefin, 2025, etholwyd y Cynghorydd John Davies o Sir Benfro yn Gadeirydd ac etholwyd y Cynghorydd Matthew Crowley o Gastell-nedd Port Talbot yn Ddirprwy Gadeirydd.

Ymunodd y Cynghorydd John Davies â'r Awdurdod Tân ym mis Mai 2022 ac mae wedi gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd ers 2023. Mae'n cymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd Gwynfor Thomas o Bowys, a fydd yn parhau fel Aelod o'r Awdurdod Tân.  Mae'r Cynghorydd Davies wedi bod yn ei swydd yng Nghyngor Sir Benfro ers mis Mai 1999, gan weithio fel Arweinydd y Cyngor rhwng 2004 a 2012.  Cyn hynny, bu'r Cynghorydd Davies yn arwain Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fel Cadeirydd y Bwrdd am 10 mlynedd, a dyfarnwyd Is-lywyddiaeth Oes er Anrhydedd i'r Gymdeithas i'r Cynghorydd Davies yn 2022 am ei gyfnod a'i wasanaeth fel Cadeirydd.  Cwblhaodd ddau dymor hefyd fel aelod o Awdurdod S4C ac mae'n gyn Uchel Siryf Dyfed.



Wrth siarad am gael ei ethol yn Gadeirydd yr Awdurdod Tân, dywedodd y Cynghorydd John Davies:

"Mae'n fraint enfawr cael fy ethol yn Gadeirydd ar adeg o newidiadau a heriau sylweddol o fewn y sector Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. 

Byddaf yn ymdrechu, ynghyd â fy nghyd-aelodau o’r Awdurdod Tân, i ymgysylltu â'r holl randdeiliaid, o'r staff sy'n llywio'r Gwasanaeth, i'r aelodau o'r cyhoedd yr ydym yn eu cynrychioli a'u diogelu.  Mae'n anrhydedd cael bod yn gysylltiedig â Gwasanaeth sy'n parhau i wasanaethu ei gymunedau’n effeithiol pan fo angen arnynt."



Mae'r Cynghorydd Matthew Crowley wedi bod yn aelod o'r Awdurdod Tân ers mis Mehefin 2017.  Dechreuodd y Cynghorydd Crowley ei yrfa yn y sector cyhoeddus pan ymunodd â Chyngor Bwrdeistref Afan yn 1982 a gwasanaethodd fel Maer Castell-nedd Port Talbot rhwng 2024 a 2025.

Mae'r Cynghorydd Crowley yn Llywydd Clwb Rygbi Green Stars Aberafan, yn Aelod o Glwb Achubwyr Bywyd Aberafan, yn Aelod Oes o Undeb y GMB, yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Awel y Môr, ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Tywyn.



Wrth sôn am ei benodiad yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod Tân, dywedodd y Cynghorydd Crowley:

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd ddeublyg i wasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod Tân.

Fel gyda phob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae gennym amser heriol o'n blaenau, ond gydag ymrwymiad ein Haelodau etholedig a'n Swyddogion, rydym yma i roi'r Gwasanaeth Tân ac Achub gorau i'r cyhoedd.

Mae'r penodiad hwn hefyd yn golygu llawer i mi yn bersonol, gan fy mod yn dilyn ôl troed fy niweddar dad gan ei fod ef hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd ac yna'n Gadeirydd yr Awdurdod Tân rhwng 2007 a 2009."




Y Cynghorydd John Davies

Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru




Y Cynghorydd Matthew Crowley

Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru



Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu gwasanaeth ymateb brys i bron i ddwy ran o dair o Gymru a chwe ardal awdurdod lleol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys a Dinas a Sir Abertawe. 

Mae'r Gwasanaeth yn cwmpasu ardal wledig yn bennaf o 4,500 milltir sgwâr, sy'n cynnwys 58 o Orsafoedd Tân, ac mae’n cyflogi tua 1,300 o staff.  Dyma'r trydydd Gwasanaeth Tân ac Achub mwyaf yn y Deyrnas Unedig, y tu ôl i Wasanaethau Tân ac Achub yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Erthygl Flaenorol