#DoethiDanauGwyllt



Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.



Wrth i'r tymhorau newid a thywydd cynhesach ddechrau cyrraedd, mae'n gyfle perffaith i wneud y gorau o'r awyr agored. P'un a yw hynny'n golygu cynllunio gwyliau gartref, mynd ar daith wersylla i'r teulu, neu archwilio harddwch cefn gwlad Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r gwanwyn a'r haf yn dod â risg uwch o danau gwyllt. Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn #DoethiDanauGwyllt trwy ddilyn ein cyngor diogelwch syml, ymarferol. Gall ychydig bach o ofal ychwanegol wneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu i amddiffyn ein cefn gwlad syfrdanol a chadw cymunedau'n ddiogel rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.

Yn 2025, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,474 o ddigwyddiadau tanau glaswellt - cynnydd o 275% ar y flwyddyn flaenorol.

Yn fwyaf pryderus: Cododd tanau glaswellt bwriadol i 2,357 o ddigwyddiadau, cynnydd o 1,694 o danau (i fyny 256%). Mae hyn yn cynrychioli'r nifer uchaf o danau glaswellt ers 2018, gan dynnu sylw at duedd bryderus iawn sy'n peryglu pobl, eiddo, bywyd gwyllt ac adnoddau cymunedol hanfodol.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a llethrau mynyddoedd sychu'n gyflym. Gall hyd yn oed gwreichionen fach - damweiniol neu fwriadol—droi’n dân sy'n symud yn gyflym ac sy'n gallu dinistrio cynefinoedd, tirweddau, a chartrefi o fewn munudau.

Mae’r Bwrdd Tanau Gwyllt yn awyddus i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.

Nod ein hymgyrch #DoethiDanauGwyllt yw addysgu unigolion am yr arferion gorau o ran osgoi ac atal tanau gwyllt yng Nghymru. Trwy wella ymwybyddiaeth o beryglon posibl tanau gwyllt, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i fod yn fwy gwyliadwrus pan fyddant allan yn yr awyr iach ac i fod yn weithgar wrth adrodd am weithgareddau amheus a allai arwain at danau.

Gellir atal llawer iawn o danau gwyllt, ac mae ambell i beth bach y gallwn wneud er mwyn cyfyngu ar ba mor aml y maent yn digwydd a chyfyngu ar eu heffaith.




Ynghylch Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ddull aml-asiantaethol o wella ein dealltwriaeth a’n rheolaeth o’r perygl y mae tanau gwyllt yn ei beri i amgylchedd a chymunedau Cymru.

Caiff ei gyflwyno trwy Siarter Tanau Gwyllt, a’i nod yw adeiladu ar y sylfaen o wybodaeth a phrofiad a enillwyd dros y degawd diwethaf, a hynny gan ystyried perygl hollbresennol newid hinsawdd yn ogystal â chydnabod gwerth annog cymunedau ac unigolion i weithio gyda’i gilydd i ddiogelu'r ardaloedd lle maent yn byw ac yn gweithio ac ardaloedd maent yn ymweld â nhw.

Amcan y bwrdd yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Trwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio cynnig gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau'r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd.



Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.




Gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn Cymru a’n cefn gwlad

Bydd dull Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru o reoli’r risg o danau gwyllt yn cynnwys tair thema allweddol, gyda phob un wedi’i dylunio er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sydd angen y mwyaf o sylw a’r meysydd a fydd yn gwella’n dealltwriaeth ni o danau gwyllt a’n gallu i gyfyngu ar eu heffaith.

  • Partneriaethau - Trwy weithio mewn partneriaeth sy'n esblygu, byddwn yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir at ei gilydd i reoli ac i ddatblygu ein tirwedd.
  • Gwydnwch Amgylcheddol a Chymunedol - Byddwn yn cyfrannu at reoli ein tirwedd er mwyn diogelu bywyd gwyllt; coedwigaeth a bywoliaethau; i wella lles, iechyd ac amwynder, i hwyluso cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac i greu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol.
  • Atal ac Amddiffyn - Byddwn yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli er mwyn lleihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru.


Adnoddau Ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt

Er gwaethaf ein llwyddiannau ni yn y gorffennol, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i fod yn berygl parhaol i'n hamgylchedd, i’n heconomi ac i’n cymunedau, a thros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gweld arwyddion cynnar bod y gostyngiad yn nifer yr achosion yn arafu, gan awgrymu y gallem fod angen dull newydd o weithredu i ddiogelu ein cymunedau.

Nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, gyda’r dull aml-asiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth tanau gwyllt, yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru.

Dyma pam rydym wedi datblygu'r dudalen hon, lle gall holl bartneriaid, cyfranwyr a rhanddeiliaid yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt gael gafael ar yr holl ddeunyddiau yn rhwydd:  

  • Pob Datganiad i'r Wasg (yn y Gymraeg a’r Saesneg) a gyhoeddwyd i gefnogi'r ymgyrch. 
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw. 
  • Delweddau i chi lawrlwytho a’u defnyddio ar Facebook, X, Instagram i gyd-fynd â'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol a ysgrifennwyd ymlaen llaw – neu i gyd-fynd ag unrhyw negeseuon eraill sy’n benodol i’r asiantaeth yr ydych eisiau eu postio i gefnogi'r ymgyrch. 
  • Pob ffotograff a fideo o ddigwyddiadau y gellid eu defnyddio i gefnogi'r ymgyrch. 
  • Unrhyw ddeunydd briffio a ddatblygir i’n cynorthwyo wrth gyfleu ein negeseuon i'n staff rheng flaen.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch dull cyfathrebu’r ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt, neu os hoffech drafod unrhyw ddeunyddiau ychwanegol a allai fod yn fuddiol i'r ymgyrch, cysylltwch â ni ar bob cyfrif. 

Diolch yn fawr, 

Swyddfa’r Wasg GTACGC
pressofficer@mawwfire.gov.uk



Diogelwch yr Haf / Diogelu ein cefn gwlad a Chymru

Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol 

Social Media Images
Lawrlwythwch y Delweddau





Mae Llosgi Bwriadol yn Drosedd / Llosgi Cyfrifol

Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol 

Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau 



Negeseuon Penodol i’r Gwasanaeth Tân 

Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol 

Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau 





Negeseuon Penodol i Iechyd y Cyhoedd

Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol 

Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau 



Negeseuon wrth Ymateb i Ddigwyddiad

Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol 

Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau 





Negeseuon o Ddiolch 

Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.

Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol 

Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau 



Cofiwch

Os ydych allan yng nghefn gwlad ac yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch CrimeStoppers (agor mewn ffenestr/tab newydd) yn ddienw trwy alw 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.




Llethrau Llon

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Peidiwch ag Anghofio

Daeth y cyfnod llosgi grug a glaswellt gyda Chynllun Llosgi i ben ar 15 Mawrth (31 Mawrth yn ardaloedd yr ucheldir).

Y Cod Llosgi Grug a Glaswellt.

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn parhau i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, a gyda'n gilydd rydym yn ceisio atal colled bioamrywiaeth yng Nghymru.  Rydym yn deall y gall llosgi dan reolaeth fod yn fuddiol ac yn dda i’n tirwedd, a’i fod yn meithrin amrywiaeth fiolegol ac yn creu ecosystemau iachach.

Gall ffermwyr a thirfeddianwyr barhau i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth ar ucheldir), ond rhaid iddyn nhw gael Cynllun Llosgi er mwyn sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel.  Mae'n anghyfreithlon llosgi rhwng machlud haul a’r wawr, ac mae'n rhaid sicrhau bod digon o bobl ac offer wrth law trwy’r adeg er mwyn rheoli'r llosgi. Gall torri'r rheolau hyn arwain at gosb o hyd at £1000.  Rydym eisiau gweithio gyda'n tirfeddianwyr lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.  Gallwch gysylltu â ni am gyngor rhad ac am ddim ar losgi diogel, ac mae mwy o wybodaeth i’w gael yma Diogelwch Tân Fferm.

Gallwch ddysgu mwy am y Cod Llosgi Grug a Glaswellt a lawrlwytho Cynllun Rheoli Llosgi yma Gwefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn ffenestr/tab newydd).

Os gwelwch dân sy'n edrych fel y gallai fod allan o reolaeth neu'n cael ei losgi'n anghyfreithlon, yna ffoniwch CrimeStoppers (agor ffenestr/tab newydd) yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.



Cofiwch fod cynnau tanau bwriadol yn drosedd.

Er y gall damweiniau ddigwydd, mae rhai yn ein cymunedau sy'n mynd ati i gynnau tanau bwriadol yng nghefn gwlad. Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd, ac mae'r Tasglu yn apelio am wybodaeth am unrhyw un sy'n cynnau tanau bwriadol. Gallwch ffonio 101 neu wneud adroddiad dienw i CrimeStoppers (agor mewn ffenestr/tab newydd) trwy alw 0800 555 111. Mae dienw yn golygu na fydd eich rhif ffôn symudol, eich cyfeiriad, na lleoliad eich galwad yn cael eu holrhain. Bydd y rhai sy'n cael eu dal yn cael eu herlyn.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan ein tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, tîm sy’n datrys problemau ac sydd wedi ymroi i leihau ac atal tanau bwriadol. Mae'r tîm yn cynnwys Swyddog Heddlu ar secondiad, Swyddog Tân a thri chynghorydd tanau bwriadol arbenigol, ac maen nhw’n sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei ymchwilio a'i ddadansoddi’n drylwyr er mwyn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. Mae'r tîm yn cydweithio'n agos â'i bartneriaid er mwyn targedu ardaloedd lle ceir problemau’n aml ac i ddatblygu ffyrdd o leihau tanau bwriadol ac i nodi pwy neu beth y gallai fod effaith arnynt.