Dyma rai o’r digwyddiadau mawr y gwnaeth criwiau GTACGC ymateb iddyn nhw:
Digwyddiad mawr yn Hendy-gwyn ar Daf
Am 1.35yb ddydd Mercher, 5 Tachwedd, cafodd criwiau o Orsafoedd Tân Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod, Canol Abertawe, Caerfyrddin a Hendy-gwyn ar Daf eu galw i ddigwyddiad yng Nghoedlan Dewi Sant, Hendy-gwyn ar Daf.
Ymatebodd criwiau i lifogydd mewn tai ymddeol yno, gan ddefnyddio slediau achub ac offer achub dŵr i achub 48 o bobl. Roedd yr holl drigolion yn ddiogel, a rhoddwyd lloches dros dro iddyn nhw yn Neuadd y Dref Hendy-gwyn ar Daf.
Glanyfferi
Am 5.54yp ddydd Mawrth, 4 Tachwedd, cafodd criwiau o Rydaman, y Tymbl a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad yng Nglan Morfa, Glanyfferi.
Gan weithio gyda'r RNLI, ymatebodd criwiau i lifogydd mewn sawl eiddo. Fe wnaeth ein criwiau dywys nifer o bobl i ddiogelwch, a chafwyd lloches iddyn nhw yng Nghlwb Rygbi Glanyfferi.
Cydweli
Am 7.11yh ddydd Mawrth, 4 Tachwedd, cafodd criwiau o Orsafoedd Tân Gorseinon a'r Cymer eu galw i ddigwyddiad yng Ngwarchodfa Cŵn Glanrhyd yng Nghydweli.
Ymatebodd criwiau i lifogydd yn y cytiau cŵn, gan helpu i achub 34 o gŵn gan ddefnyddio slediau achub.
Llanbedr Pont Steffan
Am 5.25yp ddydd Mawrth, 4 Tachwedd, galwyd criwiau o Orsafoedd Tân Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth i ddigwyddiad yn Ffarmers.
Ymatebodd criwiau i alwad gan dri person a dau gi a oedd yn sownd mewn cerbyd mewn dŵr oedd yn llifo'n gyflym. Roedd yr ymgyrch achub yn un gymhleth, a bu’n rhaid i griwiau ddefnyddio ysgolion estyniad triphlyg i gyrraedd y cerbyd ac i achub y rhai a oedd ynddo. Ar ôl cael eu hachub, rhoddwyd y bobl a’r cŵn yng ngofal personél y Gwasanaeth Ambiwlans.
Sanclêr
Am 5.41yp ddydd Mawrth, 4 Tachwedd, cafodd criwiau o Orsafoedd Tân Treforys, Canol Abertawe, Hwlffordd, Arberth a Llandysul eu galw i ddigwyddiad yn Sanclêr.
Ymatebodd criwiau i lifogydd a effeithiodd ar tua 20 eiddo domestig a masnachol. Cafodd tua 42 o bobl gymorth i adael eu heiddo a chael eu hachub gan ddefnyddio slediau achub.