07.10.2025

Ymarferiad Hyfforddi Chwilio ac Achub yn Swydd Amwythig

Rhwng 9 a 12 Medi, cymerodd cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ran mewn ymarferiad hyfforddi chwilio ac achub ledled y DU.

Gan Steffan John



Rhwng 9 a 12 Medi, cymerodd cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi chwilio ac achub ledled y DU.

Wedi'i gynnal gan Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK International Search and Rescue - UK-ISAR), cynhaliwyd yr ymarferiad hyfforddi, o'r enw Kinverstan 7, ar draws amrywiaeth o safleoedd yn Swydd Amwythig.  Daeth y sesiwn ag aelodau o bob un o'r 14 Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n aelodau o'r UK-ISAR ynghyd, yn ogystal â thimau cŵn, cymorth milfeddygol, Tîm Meddygol Chwilio ac Achub Trefol (Urban Search and Rescue - USAR) a chynrychiolwyr rhyngwladol o Kenya a Tajikistan.

Yn cynrychioli GTACGC roedd y Rheolwr Grŵp Steven Davies, y Rheolwr Gwylfa Russ Martin, y Rheolwr Gorsaf Lee Rees a'r Diffoddwr Tân Tim Frost.  Nod y sesiwn oedd rhoi lleoliad realistig dramor i'r Tîm USAR, gan gynnwys anfon allan, sefydlu canolfan weithrediadau, dadmobileiddio llawn a chyfres o senarios achub heriol.   Roedd lleoliadau'n amrywio o ffermdy segur a gwersylloedd coetir i ogofâu, iard fferm, a gwersyll sgowtiaid, pob un wedi'i ddewis i adlewyrchu amodau a natur anrhagweladwy lleoliad rhyngwladol go iawn.





Senarios Hyfforddi Realistig

Cyflwynodd y senarios hyfforddi gyfres o heriau achub pwysau uchel a gynlluniwyd i brofi a mireinio sgiliau technegol y timau a’u gallu i addasu a chydweithio.  Gan ddechrau gyda Kinver Farm Shop, aeth ymatebwyr i ddigwyddiad lle’r oedd pobl wedi mynd yn sownd yn sgil daeargryn, yn cynnwys bêls gwair a pheiriannau, gan olygu bod angen camerâu chwilio a chloddio â llaw.  Cyflwynodd William’s Farm senario ôl-gryniad gydag anafiadau i'r asgwrn cefn a’r angen i achub mewn mannau cyfyng, gan fynnu defnydd creadigol o bwyntiau angori cyfyngedig.  Yn The Wood Yard, roedd timau’n wynebu achos o syndrom gwasgu a bu'n rhaid iddynt ddyfeisio systemau codi gan ddefnyddio pren oherwydd absenoldeb offer safonol.  Roedd y Clean Breach Workshop yn canolbwyntio ar fireinio technegau ar gyfer tynnu plygiau bôn, gan ymgorffori torri pwythau a defnyddio camera.

Gwthiodd Royce's Cave dimau i dir ansefydlog i achub teulu, gyda deunyddiau sefydlogi cyfyngedig yn gorfodi dibyniaeth ar bren lleol a rigio dyfeisgar.  Roedd yr ymarferiad olaf yn Woodside Farm yn efelychu beudy wedi dymchwel gyda nifer o anafiadau a rhywun yn sownd mewn cerbyd oedd yn golygu bod angen amdoriad.  Ychwanegodd ôl-gryniad ffug frys, gan gaethiwo personél meddygol a sbarduno senario rheoli argyfwng.  Ym mhob ymarferiad, roedd y pwyslais ar realaeth, dyfeisgarwch, a'r gallu i ymateb yn effeithiol mewn amgylcheddau anrhagweladwy a pheryglus.



Cydweithio Llwyddiannus

Daeth ymarferiad hyfforddi Kinverstan 7 ag ystod eang o arbenigedd at ei gilydd: staff cyfarwyddo o Wasanaeth Tân ac Achub Kent, ymatebwyr ISAR profiadol o bob cwr o'r DU, a chyfraniadau gwerthfawr gan dimau cŵn a meddygol.  Ychwanegodd cynrychiolwyr rhyngwladol ddimensiwn pwysig, gan rannu gwybodaeth ac arsylwi dulliau gweithredol y DU.

Cafodd yr ymarferiad ei ganmol fel llwyddiant mawr, gyda'r holl amcanion wedi'u cyflawni, gwersi gwerthfawr wedi'u dysgu, a gallu’r tîm wedi'i gryfhau ar gyfer gweithrediadau yn y dyfodol.





Erthygl Flaenorol