Cynhaliwyd yr ymarfer undydd ar hyd rhan o’r Afon Tawe ac yng Nghasllwchwr, ac yno fe wnaeth y Diffoddwyr Tân weithio trwy sefyllfaoedd achub realistig a oedd yn canolbwyntio ar weithrediadau dŵr ymarferol. Bu’r cyfranogwyr yn ymarfer technegau achub o ddŵr chwim i adfer pobl o ddŵr sy'n llifo, a hynny gan ddefnyddio bagiau taflu a chyfarpar arbenigol i gerdded trwy ddŵr. Bu’r criwiau’n defnyddio slediau achub ac ysgolion i efelychu achubiadau ymestyn, a buon nhw’n gwneud driliau cludo ar wely i fireinio cydlyniant a’r gallu i symud pobl sydd wedi’u hanafu mewn amgylcheddau ansefydlog.
Roedd y senarios lle’r oedd rhaid achub pobl wedi’u hanafu mewn ardaloedd â mynediad cyfyngedig yn herio’r Diffoddwyr Tân i feddwl yn feirniadol ac i addasu'n gyflym. Fe wnaeth y Diffoddwyr Tân ddysgu sut i asesu anafiadau, sut i sefydlogi anafiadau, a sut i symud trwy leoedd cyfyng. Dyma sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer digwyddiadau megis gwrthdrawiadau ar y ffordd.
Roedd y sesiwn olaf yn canolbwyntio ar weithio'n ddiogel ar uchder, pan ddefnyddiwyd ysgol saith metr i efelychu achubiadau oddi ar doeau ac ar uchder. Bu’r Diffoddwyr Tân yn ymarfer technegau dringo diogel a sefydlu pwyntiau angor, ac fe atgyfnerthwyd pwysigrwydd diogelwch, cyfathrebu a manwl gywirdeb.
Fe wnaeth yr ymarfer hyfforddi hwn roi hwb i barodrwydd yr ochr weithredol yn ogystal ag atgyfnerthu ymroddiad criwiau i amddiffyn eu cymunedau.