30.09.2025

#LlosgiIAmddiffyn

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LlosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.

Gan Rachel Kestin



Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LlosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.

Wrth i'r haf hir, poeth ddod i ben a’n bod ni’n symud i'r hydref, gyda llystyfiant sych a gostyngiad mewn tymheredd, mae'r tymor llosgi yn dechrau yn swyddogol.

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru eisiau atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr y gall llosgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin ddigwydd o 1 Hydref hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd Ucheldir), fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gael Cynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel.

Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru:



"Mae 2025 wedi gweld cynnydd digynsail mewn tanau gwyllt ledled Cymru. Gan gyfuno tanau glaswelltir, coetir, cnydau a thanau gwyllt, mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ymateb i gyfanswm o 3289 o ddigwyddiadau ers mis Ionawr 2025, y nifer fwyaf o ddigwyddiadau ers 2018.

"Fel rheolwyr tir, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu ein cymunedau rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt. Mae eich tir a'ch bywoliaeth nid yn unig yn hanfodol i chi ond maent hefyd yn hanfodol i'n hecosystem ehangach ac i’r economi .

"Rydym yn eich annog i weithredu strategaethau atal tanau gwyllt effeithiol wrth losgi eich tir.

"Mae llosgi'ch tir yn gyfrifol yn hanfodol wrth amddiffyn eich asedau, gwarantu diogelwch eich teulu a chynnal cynhyrchiant eich tir tra hefyd yn sicrhau eich bod yn parchu ein cefn gwlad ac yn chwarae eich rhan wrth ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel.

“Mae modd atal llawer o danau gwyllt ac mae yna rai camau syml a newidiadau i ymddygiad a all gyfyngu ar eu nifer a’u heffaith.”



Mae tân wedi bod yn rhan o ecoleg naturiol yr ucheldir a rhai amgylcheddau iseldir ers miloedd o flynyddoedd ac mae hefyd yn un o'r offer rheoli tir hynaf, a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli hela ac, yn fwy diweddar, rheoli cadwraeth bywyd gwyllt.

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i gydweithio â'u Gwasanaeth Tân lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Undebau i sicrhau eu bod yn llosgi'n gyfrifol ac yn ddiogel.

Fel rhan o'u hymgyrch #LosgiiAmddiffyn mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor syml a fydd yn helpu i gefnogi llosgi cyfrifol:

  • Rhowch wybod ymlaen llaw i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol er mwyn osgoi galwadau diangen a chriwiau’n cael eu danfon allan yn ddiangen yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb os bydd tân yn mynd allan o reolaeth.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o bobl ac offer i reoli'r tân.
  • Gwiriwch gyfeiriad y gwynt a sicrhau nad oes unrhyw risg i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt.
  • Os bydd tân yn mynd allan o reolaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth tân ar unwaith gan roi manylion am y lleoliad a sut i gael mynediad ato.
  • Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb oruchwyliaeth neu heb ddigon o bobl yn ei reoli.
  • Gwnewch yn siŵr bob amser bod tân wedi diffodd yn llwyr cyn i chi ei adael a gwiriwch y diwrnod canlynol i sicrhau nad yw wedi ailgynnau.

Dywedodd Mared Jones, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru:



 “Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i greu tirwedd sy’n iachach, yn fwy gwydn, ac â mwy o fioamrywiaeth yma yng Nghymru, gan wneud popeth allwn ni i ddiogelu'r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer y dyfodol.

"Rydyn ni eisiau gweithio gyda'n ffermwyr a'n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith y mae tanau bwriadol a damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydym yn deall y gall llosgiadau dan reolaeth gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy ac rydym ar gael am gyngor rhad ac am ddim ar sut i wneud hyn yn ddiogel."



Trwy gydweithio â chymunedau i rannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio rhoi gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i gyfyngu ar faint o danau damweiniol sy’n digwydd ac yn ei dro’r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd.

Dysgwch fwy am #LlosgiIAmddiffyn 2025 drwy #LlosgiIAmddiffyn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle gallwch hefyd gael mynediad at rai awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun.

Gyda'n gilydd, gallwn atal tanau glaswellt ac amddiffyn ein cefn gwlad a Chymru.

Cofiwch - Os ydych allan yn mwynhau cefn gwlad a’ch bod chi’n gweld unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf