Ddydd Llun, Medi 8fed, croesawodd y criw yng Ngorsaf Dân Llanfair-ym-Muallt Darren Hughes, a oedd yn ymweld i ddiolch i'r criw am eu hymateb a'u gwaith arbennig tra roedd yn profi argyfwng meddygol.
Tra roedd allan yn rhedeg tua 12 mis yn ôl, dioddefodd Darren ataliad ar y galon ac roedd angen sylw meddygol brys arno. Cyd-redwr a ffrind i Darren, Lee Humphries, oedd y cyntaf i gyrraedd y lleoliad a chododd y larwm cyn perfformio adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) nes i gymorth cyrraedd. Roedd angen ymateb amlasiantaeth i'r digwyddiad, gyda Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Llanfair-ym-Muallt a phersonél o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC) a'r Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) mewn Ambiwlans Awyr yn ymateb i’r digwyddiad.
Yn ymuno â Darren a Lee, ynghyd â gwraig Darren, Gaynor, oedd Cerys Tucker, sef y parafeddyg cyntaf i gyrraedd y digwyddiad, Laura Coyne, Codwr Arian Cymunedol ar gyfer YGAC a Tania Eveleigh o Ambiwlans Awyr y DU wrth ymweld â’r Orsaf Dân. Bu’r ymweliad yn gyfle i Darren ddiolch i'r holl wasanaethau brys a'i helpodd ac amlygodd y cydweithrediad arbennig rhwng yr holl wasanaethau i gyflawni canlyniad cadarnhaol.