Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad Senseia, ymgynghoriaeth newid diwylliannol annibynnol, fel rhan o'i ymrwymiad i wella diwylliant sefydliadol ac effeithiolrwydd gweithredol.
Mae'r penodiad hwn yn dilyn canfyddiadau adolygiad diwylliant annibynnol diweddar a gynhaliwyd gan Crest Advisory, a amlygodd feysydd hollbwysig i'w gwella o fewn y Gwasanaeth.
Mae'r adroddiad, sydd ar gael i'r cyhoedd yma, yn rhoi asesiad manwl o dirwedd ddiwylliannol gyfredol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan nodi cryfderau a meysydd sydd angen eu datblygu.
Mae canfyddiadau allweddol o'r adolygiad yn tanlinellu'r angen am ddiwylliant gweithle cydlynol a chefnogol lle mae'r holl bersonél yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys. Mae'r adroddiad yn galw am newid mewn arddulliau arwain, gwell strategaethau cyfathrebu a sefydlu mesurau atebolrwydd er mwyn sicrhau amgylchedd cadarnhaol sy'n ffafriol i berfformiad uchel.
Mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn, mae Senseia, a benodwyd ar ôl ymarferiad caffael cadarn, wedi cael ei gadw i arwain y Gwasanaeth ar ei daith ddiwylliannol. Gyda hanes profedig o drawsnewid diwylliannau sefydliadol o fewn amryw o sectorau, gan gynnwys gwasanaethau brys golau glas, bydd Senseia yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth a'i staff i weithredu strategaethau ymarferol sydd â'r nod o feithrin diwylliant o ymddiriedaeth, cydweithio a chynhwysiant.