Ddydd Mawrth, Hydref 22ain, croesawodd criw Gorsaf Dân Llanwrtyd y Dirprwy Faer Jim Davies, yng nghwmni Sue Jones a Dave Ronicle o Gyfeillion Gofal Iechyd yn Llanfair-ym-Muallt a'r Cylch.
Roedd yr ymweliad yn gyfle gwerthfawr i gael cipolwg ar rôl hanfodol Diffoddwyr Tân Ar Alwad, yr amrywiaeth o ddigwyddiadau y maent yn ymateb iddynt a'r ymrwymiad cyson y maent yn eu dangos i ddiogelu'r gymuned. Roedd amser hefyd i fwynhau paned gyda'r criw!
Daeth yr ymweliad i ben gyda rhodd hael i'r gymuned, wrth i Sue Jones gyflwyno pecyn rheoli gwaedu hygyrch i'r gymuned i'r Rheolwr Gwylfa Kumar Saraff – adnodd hanfodol sy'n achub bywydau – a roddwyd yn garedig gan Gyfeillion Gofal Iechyd yn Llanfair-ym-Muallt a'r Cylch. Bydd y pecyn ar gael 24 awr y dydd, wedi'i leoli yn y cabinet diffibriliwr sydd wedi'i leoli ar flaen yr Orsaf Dân.