Am 2.15yp ddydd Llun, Medi 15fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Aberystwyth, Cei Newydd a Llandrindod i ddigwyddiad ger Bwlch-llan yng Ngheredigion.
Ymatebodd criwiau i dân o fewn eiddo domestig deulawr, yn mesur tua 10 metr wrth 5 metr, a oedd yn atotedig i ffermdy. Gwnaeth criwiau gwynebu tân a oedd wedi datblygu’n dda, gyda’r ymdrechion diffodd tân yn cael eu gwneud yn galetach gan wyntoedd cryfion.
Defnyddiodd y criwiau dwy chwistrell olwyn piben, un prif chwistrell, camerâu delweddu thermol, offer bach a phwmp cludadwy ysgafn i ddiffodd y tân.
Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb y tancer dŵr o Landrindod, sy’n darparu mynediad ar unwaith i 9,000 litr o ddŵr diffodd tân a’r peiriant ysgol trofwrdd o Aberystwyth, sy’n caniatáu diffodd tân o safle uchel yn ogystal â llwyfan ar gyfer gwell ymwybyddiaeth o’r sefyllfa.
Wrth i’r digwyddiad mynd ymlaen, roedd gwybodaeth newydd yn ei gwneud yn amlwg nad oedd cyfrif am un unigolyn ac yn anffodus darganfuwyd corff yn yr adeilad ar ôl i'r tân gael ei reoli.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dyn 58 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a’i fod yn parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.